Yr Athro Dai Smith
Fe fydd sefydliadau sy’n cael eu hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn gweld gostyngiad o 2.1% yn eu cyllid y flwyddyn nesaf.

Daw’r penderfyniadau ar ôl i Lywodraeth Cymru ddweud y byddai’n rhaid i Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC) wneud arbedion o £1m.

Mewn cyfarfod wythnos diwethaf fe gytunodd CCC ar leihad cyffredinol mewn arian refeniw i bob sefydliad yn ei bortffolio fel rhan o’i Adolygiad Buddsoddi.

Fe fydd cwmnïau’n darganfod ym mis Rhagfyr 2015 sut fyddan nhw’n cael eu hariannu.

Mae CCC yn rhoi grantiau blynyddol i 69 o sefydliadau gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Bale Cymru.

Yn ôl CCC mae’r arian mae’n ei gael gan Lywodraeth Cymru wedi gostwng 10% ers 2010.

Dywed y sefydliad ei fod wedi ceisio “amddiffyn gweithgarwch ar lawr gwlad drwy leihau buddsoddiad cymorth grant mewn rhaglenni datblygu eraill” ac yn system weinyddu CCC ei hun gan wneud toriad o 14% mewn costau rhedeg dros dair blynedd.

‘Heriol’

Dywedodd yr Athro Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru bod y penderfyniadau wedi bod “yn rhai dyrys y tu hwnt.”

Ychwanegodd: “Mae’r portffolio o sefydliadau a ariannwn yn darparu cyfleoedd i bobl ledled Cymru, ac o bob cefndir, i fwynhau’r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt. Er inni geisio ein gorau glas i warchod y portffolio rhag effaith lawn toriadau’r flwyddyn nesaf gan y llywodraeth, bydd effaith gronnol o’r lleihadau flwyddyn ar flwyddyn yn heriol iawn.”