Mae Channel 4 wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu parhau â’i rhaglen ddogfen ‘Educating…’ gyda’r gyfres nesaf yn cael ei ffilmio mewn ysgol yng Nghymru.
Mae criw eisoes wedi dechrau ffilmio yn Ysgol Uwchradd Willows yng Nghaerdydd ar gyfer y rhaglen, sy’n dilyn cyfresi tebyg mewn ysgolion yn Essex, Swydd Efrog a dwyrain Llundain.
Dywedodd y pennaeth, Joy Ballard, a gymerodd yr awenau yn yr ysgol dair blynedd yn ôl, ei bod yn “falch iawn” pan wnaeth Channel 4 gysylltu â nhw.
Meddai Joy Ballard: “Mae Willows wedi bod ar daith anhygoel dros y tair blynedd diwethaf ac wedi cael ei thrawsnewid o fod yn un o’r ysgolion sy’n perfformio gwaethaf yn y wlad i ysgol yr ydym yn falch iawn ohoni.
“Rydym yn credu bod y berthynas rhwng ein staff a’r disgyblion yn eithriadol ac eisiau i’r gyfres ddangos sut mae cymaint o’n disgyblion yn dechrau cyflawni eu potensial mewn bywyd.”
Bydd y gyfres o naw pennod yn cael eu darlledu yn yr Hydref.
Dywedodd cynhyrchydd gweithredol y gyfres, David Clews: “Ysgol Willows yw un o’r ysgolion sy’n gwella fwyaf yng Nghymru, dan arweiniad y pennaeth ysbrydoledig Joy Ballard.
“Gallwch wir deimlo’r swyn a chymeriad y lle cyn gynted ag y byddwch yn cerdded drwy’r giatiau a dechrau siarad gyda’r myfyrwyr.”