Côr CF1 o Gaerdydd
Côr CF1 o Gaerdydd yw’r côr cyntaf o Gymru i ennill teitl Côr y Flwyddyn wedi eu buddugoliaeth ym Manceinion dros y penwythnos.

Roedd chwe chôr yn y rownd derfynol yn neuadd fawreddog Bridgewater Hall, gan gynnwys Côr Iau Ysgol Glanaethwy o Fangor.

Ar ôl eu llwyddiant yn y rowndiau cynderfynol, fe gyflwynodd CF1 raglen o waith Randall Thompson, Sergei Rachmaninoff a Christopher Tin i’r beirniaid – oedd yn cynnwys y perfformiwr a’r hyfforddwr llais byd-enwog, Mary King.

Sefydlwyd CF1 yn 2002 ac ers hynny mae’r côr wedi ennill ei blwyf yn un o’r corau gorau yng Nghymru gan ennill sawl gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gwyliau eraill.

Dywedodd arweinydd CF1, Eilir Owen Griffiths, bod ennill teitl Côr y Flwyddyn fel “anrheg Nadolig” cynnar:

“Mae hi wedi bod yn fraint cael bod yn rhan o gystadleuaeth Côr y Flwyddyn yn 2014 – ac roedd ennill yn goron ar y cyfan,” meddai Eilir Owen Griffiths, sydd hefyd yn gyfarwyddwr cerddorol Eisteddfod Llangollen ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant.

“Roedd yn brofiad cerddorol gwych ac yn anrheg Nadolig hyd yn oed yn well.”