Rhun Dafydd
Myfyriwr 20 oed o’r Bontfaen ger Caerdydd yw  llywydd ieuengaf Urdd Gobaith Cymru.

Mae Rhun Dafydd wedi cael ei benodi yn llywydd newydd yr Urdd.

Cafodd ei ddisgrifio gan Brif Weithredwr y mudiad, Efa Gruffudd Jones, fel rhywun sydd yn “weithgar iawn” a ganddo “syniadau cyffroes”.

Tra yn y swydd, fe fydd Rhun Dafydd hefyd yn astudio cwrs Hanes Cymru a Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae wedi bod yn is-lywydd i’r mudiad ers dwy flynedd, a’i is-lywyddion ef eleni yw Dafydd Vaughan, Llywydd 2013, a Prysor Williams sydd newydd orffen ei dymor fel Llywydd.

“Mi ges i dipyn o syrpreis pan ofynnwyd i mi os byddwn yn fodlon bod yn Llywydd i’r Urdd – gan fy mod wastad wedi meddwl mai pobl hŷn oedd yn cael eu gwahodd i fod yn Llywydd,” meddai Rhun Dafydd.

Ac yn ôl Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd: “Mae Rhun wedi bod yn weithgar iawn gyda’r Urdd ers blynyddoedd ac yn aelod gwerthfawr o Fwrdd Syr IfanC.

“Mae ganddo syniadau cyffroes ac rwyf yn edrych ymlaen at gydweithio gydag ef yn ystod ei dymor fel Llywydd.”