Miriam Elin Jones
Bydd merched (a mamau!) Cymru’n mwynhau’r albwm hwn yr haf yma, meddai Miriam Elin Jones …
Anaml iawn y clywch am fam a merch yn hoffi’r un artist cerddorol. Dydyn ni’n bendant ddim yn gytûn iawn yn ein teulu ni fel arfer, a gallwn i fod yma am bythefnos yn disgrifio’r gwahaniaethau cerddorol rhyngof fi a’m mam pe bawn i’n dechrau gwneud.
Wrth gwrs, nid yw hynny’n beth anarferol. Mae yna genhedlaeth gyfan o gerddoriaeth rhwng mam a merch, a degawdau o gantorion a chaneuon gwahanol yn mynd â’n pryd ni … ond yn ein tŷ ni, mae yna un artist (ac un yn unig) sy’n pontio’r bwlch hwnnw.
Al Lewis.
Mae llais hudolus Al Lewis, gyda chymorth ei fand talentog, yn llwyddo i swyno gwrandawyr o bob oedran. O’r diwedd, mae ei fath arbennig o gerddoriaeth acwstig yn ei ôl, a chroesawn ei drydydd albwm Cymraeg (ei bumed yn gyfan gwbl), Heulwen o Hiraeth.
Rydym eisoes yn gyfarwydd â’r gân sydd wedi benthyg ei henw i’r casgliad, a hithau wedi cael ei chwarae droeon ar donfeddi Radio Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac afraid dweud, roedd hi’n rhagflas gymwys a champus i’r albwm hon.
Gallwch wrando iddi yma:
Caneuon (a covers) cofiadwy
Cymharaf ‘Pethau Man’ i rai o ganeuon mwyaf adnabyddus Al Lewis Band, megis ‘Llai Na Munud’ a ‘Lle Hoffwn Fod’, gan ddisgwyl clywed honno’n gyson ar y radio yn y dyfodol agos. Mae ‘Ela Ti’n Iawn’ yn gân upbeat, llon, fydd yn siŵr o godi calon, ac mae ‘Heno yn y Lion’ yn ffefryn personol.
Mae dehongliad y band o ‘Gwlith y Wawr’ yn ychwanegiad annisgwyl iawn – ond ni allaf ddweud ei bod at fy nant i.
Efallai fy mod wedi arfer â natur herfeiddiol Big Leaves (a’i canodd yn wreiddiol) ac yn ei gweld hi’n rhyfedd clywed llais pur a thrac gwerinol yn gefndir i’r gân ar ei newydd wedd.
Fodd bynnag nid honno yw’r unig fersiwn newydd o hen gân sydd ar yr albwm, a chlywn lais is, annisgwyl ar addasiad o ‘Salem yn y Wlad’ gan Endaf Emlyn. Ynghyd â’r lleisiau cefndirol effeithiol, mae’n ychwanegu naws iasoer a sinistr i’r gân.
Deuawdau yn ôl y disgwyl
Wrth gwrs, ni fyddai’n albwm gan Mr Lewis heb ddeuawd neu ddwy. Un o’m hoff ganeuon ganddo yn gyffredinol yw’r ddeuawd ‘Gwenwyn’ gyda Meic Stevens oddi ar yr albwm gyntaf, ac ar yr albwm hwn mae Gwyneth Gwyn a Sarah Howells o Paper Aeroplanes yn cyfrannu at ddwy gân.
Mae lleisiau swynol y ddwy gantores yn gweddu i’r dim i’r casgliad hwn, ac mae ‘Teyrnas Ddiffaith’, yn enwedig, yn gân gain, gyda’r harmonica’n gwau drwy’r geiriau mewn modd trawiadol iawn.
Afraid dweud, nid yw Heulwen o Hiraeth yn or-wahanol i’w albymau cynt, ond dydw i ddim yn meddwl bod hynny’n beth drwg i gyd.
Ni allaf ddychmygu Al Lewis yn cydio mewn gitâr electrig a dechrau canu rhyw fath o gân roc neu indie, ac mae ei steil nodweddiadol wedi tyfu ac aeddfedu ers y ddau albwm gyntaf. (Diolch byth, rydym wedi anghofio’n llwyr am sgrech aflafar ‘Llosgi’ erbyn hyn …)
‘Easy listening’ ar gyfer pob oedran
Maent yn honni bod ‘easy reading’ yn ‘damned hard writing’, ac o ystyried hynny yng nghyd-destun cerddoriaeth, mae’n rhaid bod math arbennig Al Lewis a’r Band o gerddoriaeth ‘easy-listening’ wedi cymryd misoedd ar fisoedd o waith caled.
Nid yw’n syndod o gwbl bod ei gerddoriaeth Saesneg wedi bod yn boblogaidd ar Radio 2, a rhagwelaf y bydd traciau’r albwm hon yn mynd i fod yn flaenllaw iawn ar Radio Cymru ar hyd yr haf.
Yn wir, gallaf ei dychmygu’n drac sain ddelfrydol ar gyfer y misoedd sydd i ddod – byddai’r caneuon yn gweddu’n berffaith yn gefndir i ddiwrnod braf allan yn yr haul, ond yn ogystal â hynny, byddai’r caneuon yn tywynnu a chodi gwên ar ddiwrnod glawog.
Bois, mae Al Lewis yn plesio’r merched a’u mamau – yn ein tŷ ni, mae hynny’n ffaith. Pe bai’n rhaid i mi gwtogi’r adolygiad hwn, a defnyddio un gair yn unig i ddisgrifio’r albwm hon, ‘hyfryd’ byddai’r ansoddair y byddwn i – a Mam! – yn ei ddewis.
Gallwch weld Al Lewis a’r Band yng Nghaernarfon, Aberystwyth, Llanfair ym Muallt, Treorci a Llangrannog dros yr wythnosau nesaf – manylion am y gigiau a sut i brynu’r albwm Heulwen o Hiraeth ar gael o wefan www.allewismusic.com.
Marc: 8/10
Gallwch ddarllen mwy gan Miriam ar ei blog, neu ei dilyn ar Twitter ar @miriamelin23.