Mae’r gwaith o drawsnewid caeau gwyrddion yn y Bala ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014 wedi dechrau.

Torrwyd y dywarchen gyntaf ar gaeau stad y Rhiwlas, Y Bala heddiw ac mae’r prif bafiliwn, swyddfeydd a thracfyrddau hefyd wrthi’n cael eu gosod yn barod ar gyfer y brifwyl sy’n digwydd ddiwedd mis Mai.

Yn wahanol i’r llynedd, fe fydd system newydd electroneg yn cael ei defnyddio yn y ganolfan groeso ac fe all bobol sy’n talu am docynnau ymlaen llaw dros y ffôn neu’r we yn gallu dewis argraffu’r tocynnau eu hunain adref.

Hefyd, fe fydd adeilad y GwyddonLe – lle mae gweithgareddau daearyddiaeth, meddygaeth a bioleg yn digwydd – yn dyblu mewn maint ar gyfer ‘Steddfod Meirionnydd.

‘Cynnwrf’

Yn ôl Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, “Mae’n amser llawn cynnwrf wrth i’r gwaith ar y Maes ddechrau, ac wrth i bobol leol weld y criw adeiladu yn brysur yn trawsnewid y caeau.

“Mae’n anhygoel beth gall y tîm ei gyflawni mewn ychydig o amser gan sicrhau bod caeau gwyrddion Rhiwlas yn troi’n faes pwrpasol i groesawu pawb o bell ac agos i brifwyl ieuenctid yr Urdd.

10% o’r targed ariannol dal ar ôl

Ychwanegodd Hedd Pugh, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Meirionnydd 2014: “Wedi dwy flynedd o gydweithio i gynnal gweithgareddau lleol codi arian a chodi ymwybyddiaeth, mae’n hyfryd gweld y gwaith adeiladu’n cychwyn!

“Mae’r gefnogaeth yn lleol wedi bod yn wych, a hoffwn ddiolch i’r tîm dygn o wirfoddolwyr sydd wedi bod wrthi’n ddi-baid.

“Mae’r cyhoedd ym mhob rhan o’r ardal wedi sicrhau cyfraniadau ariannol i gynorthwyo yn y gwaith o lwyfannu’r brifwyl ieuenctid ym Meirionnydd.

“Gyda 90% o’r targed wedi ei gyrraedd, bydd yr wythnosau nesaf yn gyfle i roi hwb olaf i’r gwaith.”