Ian Watkins, cyn brif leisydd y Lostprophets
Mae cyn aelodau’r grŵp Lostprophets wedi ffurfio band newydd o dan enw gwahanol ar ol i’r cyn-ganwr, Ian Watkins gael ei garcharu am droseddau rhywiol yn erbyn plant.

Bydd aelodau eraill y band o Bontypridd – Lee Gaze, Mike Lewis, Jamie Oliver, Luke Johnson a Stuart Richardson – yn gweithio gyda label Collect Records sydd yn cael ei redeg gan cyn-ganwr Thursday, Geoff Rickly.

Fe gadarnhaodd Rickly ar orsaf Radio Cardiff ei fod bellach yn gweithio gyda’r cyn-aelodau ar ddeunydd newydd, ond ni chafwyd cadarnhad o enw’r grŵp newydd na chwaith pwy fydd y prif leisydd.

Dywedodd yr Americanwr y byddai’r grŵp newydd o dan ei label ef yn swnio fel “ychydig o New Order, ychydig o Joy Division, ychydig o The Cure”.

“Os oes unrhyw grŵp o bobl angen ail gyfle, y bechgyn yna ydyn nhw,” meddai Rickly. “Roedd beth ddigwyddodd yn erchyll iddyn nhw … dyw pobl ddim wir yn meddwl am beth sydd yn digwydd i’r aelodau eraill.

“Roedd rhaid iddyn nhw roi’r gorau i bopeth roedden nhw wedi gweithio amdano ers 15 i 17 mlynedd. Doedd ganddyn nhw ddim syniad beth oedd yn mynd ymlaen.

“Fydd pobl ddim yn gwybod beth sydd wedi’u taro nhw pan ddaw’r band newydd mas. Maen nhw mor dda … dwi’n hynod o falch drostyn nhw.”

Cafodd cyn-ganwr y Lostprophets Ian Watkins ei ddedfrydu i 35 mlynedd o garchar ym mis Rhagfyr y llynedd ar ôl ei gael yn euog o gyfres o droseddau rhywiol yn erbyn plant – gan gynnwys treisio babi.

Ym mis Hydref 2013 fe gyhoeddodd y band eu bod yn dod i ben, ar ôl misoedd o ansicrwydd yn dilyn y cyhuddiad yn erbyn Watkins.

Roedd y band wedi dod yn enwog yn fyd-eang gyda senglau fel ‘Rooftops’ a ‘Last Train Home’, gan werthu 3.5miliwn o albymau ledled y byd.