Jeremy Clarkson
Mae’r cyflwynydd teledu Jeremy Clarkson wedi gwadu ei fod e wedi gwneud sylw hiliol tra’n ffilmio rhaglen Top Gear.

Yn ôl papur newydd y Daily Mirror, cafodd Clarkson ei glywed yn adrodd rhigwm ‘Eeny, meeny, miny moe’ sy’n cynnwys gair hiliol.

Ni chafodd y clip ei ddangos yn ystod y rhaglen, ac mae arbenigwyr wedi bod yn astudio’r clip er mwyn ceisio clywed y sarhad.

Ar ei dudalen Twitter @JeremyClarkson, dywedodd y cyflwynydd: “Wnes i ddim defnyddio’r gair ‘n’. Byth yn ei ddefnyddio. Mae’r Mirror wedi mynd yn rhy bell y tro hwn.”

Daw’r honiadau diweddaraf ddiwrnodau’n unig ar ôl i gynhyrchydd y rhaglen orfod ymddiheuro am jôc sarhaus arall arweiniodd at gŵyn.

Dywedodd y sawl a gwynodd fod y defnydd o’r gair “slope” yng nghyd-destun eitem am wledydd Burma a Gwlad Thai yn enghraifft o “hiliaeth ffwrdd-â-hi” ac yn gyfystyr â “chamymddwyn difrifol”.

Mae cynhyrchydd gweithredol y rhaglen, Andy Wilman wedi amddiffyn y defnydd o’r gair ‘slope’ ar y rhaglen ond fe ddywedodd na fyddai’r rhaglen wedi darlledu’r gair pe baen nhw’n gwybod ei fod yn sarhaus.

Eisoes yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Clarkson wedi canfod ei hun yng nghanol sawl ffrae yn dilyn sylwadau sarhaus am geir o Siapan, pobol sy’n cyflawni hunanladdiad trwy daflu eu hunain o flaen trenau a dweud y dylid “saethu” gweithwyr sy’n streicio.

Mae gwleidyddion mewn nifer o wledydd, gan gynnwys India a Mecsico hefyd wedi cwyno am sylwadau gan Clarkson tra y bu’n ffilmio.