Y Ffug yw un o enillwyr prin Brwydr y Bandiau C2 sydd wedi llwyddo i gymryd y cam cerddorol nesaf, yn ôl Miriam Elin Jones …

Cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2014 – mae’n anodd credu bod yr adeg honno o’r flwyddyn wedi’n cyrraedd ni eto.

Afraid dweud, gyda gwobrau gwefreiddiol sy’n cynnwys y cyfle i chwarae set ym Maes B, siawns i recordio sesiwn gydag C2 a chyfweliad yn Y Selar, does yna ddim syndod bod cnwd iach o fandiau ac artistiaid ifanc yn cystadlu am y teitl anrhydeddus, ‘Enillydd Brwydr y Bandiau’, o flwyddyn i flwyddyn.

Parhad y band ifanc wedi’r brifysgol

Er, pryderaf braidd wrth ymchwil i gyn-enillwyr y gystadleuaeth. Gallwn weld ei hi wedi bod yn gryn dipyn o amser ers i Nebulu (enillwyr 2012) ryddhau unrhyw beth newydd, diflannodd Yr Angen (enillwyr 2010) wedi iddynt ryddhau eu halbwm ac ni chlywyd am Siân Miriam (2011) byth ers hynny… (i weld mwy o enwau anghyfarwydd, dyma oriel luniau o gyn-enillwyr ar wefan C2.

Nid bai C2 a’r Mentrau Iaith, sef trefnwyr y gystadleuaeth, yw hynny, chwarae teg. Gan fod y gystadleuaeth yn chwilio am fandiau ac artistiaid ifanc rhwng 16 a 21 oed, mae’n denu nifer o gerddorion o’r Chweched Dosbarth i gystadlu.

Wedi gadael yr ysgol, mae’r bandiau yn dueddol o ddiflannu i brifysgolion a swyddi gwahanol, ac yn chwalu yn sgil hynny – problem oesol y sin cerddorol Gymraeg, yn anffodus.

Fodd bynnag, un o ‘success stories’ mwyaf amlwg y gystadleuaeth yw Sŵnami, a ddaeth yn agos iawn i’r brig yn 2011, pan enillodd Siân Miriam.

Er i nifer o’r bandiau a gymerodd rhan yn y gorffennol ddiflannu i ebargofiant, mae Sŵnami yn dangos potensial y gystadleuaeth fel dechrau i yrfa gerddorol lwyddiannus yn y Gymraeg – a byddwn wir yn argymell bandiau i gystadlu a chymryd rhan, gan ei fod yn llwyfan arbennig i hyrwyddo’u hunain am y tro cyntaf.

EP cyntaf Y Ffug

Gwelwn hefyd fod enillwyr y llynedd wedi manteisio ar y cyfle hwnnw, a gobeithiaf y bydd y momentwm cynnar yma’n parhau iddynt.

Mae Y Ffug, band pync o Ysgol y Preseli, ar fin rhyddhau eu EP cyntaf, ‘Cofiwch Dryweryn’. EP proffesiynol iawn sy’n arddangos nifer o ddylanwadau cerddorol amrywiol, ac mae’n anodd credu aeddfedrwydd y casgliad, gan ystyried mai disgyblion ysgol yw’r band.

Tra ‘mod i’n defnyddio’r ansoddair ‘addawol’ i ddisgrifio cynnyrch bandiau ifanc cyffelyb megis Castro a Y Banditos, dydy’r gair hwnnw ddim yn mynd i fodoli yn yr adolygiad hwn. Credaf fod sain yr EP yn adlewyrchu bod y band hwn eisoes yn sicr o’u sŵn.

O’r cychwyn cyntaf, gwelwn fod gan y band hwn o Grymych bethau o bwys i’w dweud, ac maent yn gwybod yn iawn sut mae’u dweud nhw. Maent yn ddi-flewyn ar dafod, a does arnynt ddim ofn pechu neb.

Dwedwch pryd a gewn ni anghofio Tryweryn?’

Mae’n syndod nad ‘Anghofiwch Dryweryn’ yw enw’r casgliad, am mai dyna’r ymadrodd dadleuol a gorddod cynifer y llynedd. Mae herio a chorddi yn rhan o weledigaeth Y Ffug fel band, ac mae’n braf gweld band mor feiddgar yn barod i wneud, yn hytrach na chadw pethau’n “saff”.

Mae ‘O Fewn Fy Hunan’ yn agoriad rhyfygus i’r casgliad, gyda riff gitâr sy’n mynnu eich sylw yn syth. Mae’n gân am iselder a thor-calon, ac er nad yw hynny’n ddim byd newydd, mae’r geiriau ‘Gorfod llyncu razor blades’ reit ar ddechrau’r casgliad yn cyflwyno safbwynt onest ac eithafol i ni.

Yn cyferbynnu’n drawiadol gyda’r pync uchel ac amlwg hynny ac yng ngweddill y casgliad, mae alaw hudolus ‘Cariad a Thrais’, yn eich hypnoteiddio, gyda naws seicadelig Sen Segur-aidd yn perthyn iddi.

Rwyf yn hoff iawn o’r gan ‘Llosgwch y Tŷ i Lawr’. Er mai ‘ Llosgwch y tŷ i lawr/a lladdwch eich rhieni’, yw geiriau’r gytgan, cai ei gyfosod gydag alaw chwareus. Credwch neu beidio, mae’r gan hon yn codi gwên.

Mae diwedd y gan yn esblygu’n fath gwahanol o sŵn piano amlwg gyda llais yn canu, ‘Chwaraewch y tap yn ôl i siarad efo Iesu…’ sy’n creu elfen absẃrd iawn i’r cyfan oll.

‘Dan reolaeth cariad Dosbarth Canol Cymru’

Cân olaf y casgliad, ‘Cariad Dosbarth Canol Cymraeg’ yw uchafbwynt yr EP, heb os, ac mae’n gân sy’n herio pob un o golofnau cadarn y Cymry Dosbarth Canol – popeth, mae’n rhaid i fi gyfaddef, sy’n bwysig i fi’n bersonol.

Ond dydw i ddim yn gallu dal dig, er yr ymosodiad amlwg arnaf i a’m tebyg. Mae’n gân fachog sy’n eich gorfodi i wrando, ac mae’n amhosib peidio â’i chymharu â ‘Cân i Gymru’ gan Datblygiad.

‘Cofiwch ddweud diolch am y Gymraeg…‘ yw cri amlwg Iolo James yn y gân olaf honno, a gallaf ond ychwanegu ‘Cofiwch ddweud diolch am EP Y Ffug’ i gyd fynd gyda hynny.

Mae’n EP gyntaf anhygoel, â chwe chân gref sy’n cyflwyno her go iawn i’r rhai a ddaw i frig Cystadleuaeth Brwydr y Bandiau eleni. Mae’r safon yn uchel iawn … ond byddwn wrth fy modd yn gweld band newydd, ffres yn dod i’r brig eleni.

Mae’r EP yn cael ei rhyddhau yn swyddogol ar y 7/04/14.

Gallwch ddarllen mwy gan Miriam ar ei blog, neu ei dilyn ar Twitter ar @miriamelin23.