Miriam Elin Jones
Mae angen mwy o adolygiadau beirniadol o’r sin roc Gymraeg, yn ôl blogwraig cerddoriaeth golwg360 Miriam Elin Jones …
Mae rhoi eich barn bersonol ar rywbeth mewn geiriau – boed y peth hwnnw’n albwm neu’n EP (neu hyd yn oed yn llyfr neu’n gyfrol o farddoniaeth neu’n arddangosfa gelf) – yn dasg digon anodd.
Mae gwybod os ydych yn hoff o rywbeth neu beidio yn deillio o ymateb greddfol, i ryw raddau, ac mae’n anodd disgrifio pam yn gwmws yr ydym yn hoff (neu ddim mor hoff) o’r darn o gerddoriaeth. Felly clodwiw yw ymgais unrhyw adolygydd i fynd ati i leisio’u barn.
Ond, wrth ddarllen nifer o adolygiadau Cymraeg dros y blynyddoedd (a cheisio ysgrifennu ambell un fy hun), mae modd gweld bod yna duedd gan Gymry fod braidd yn rhy garedig wrth adolygu cerddoriaeth.
Ofn pechu
Mi ddywedodd un o’m ffrindiau wrthyf yn ddiweddar bod un o’m hadolygiadau innau “braidd yn harsh” o’i gymharu ag adolygiadau eraill yn y Gymraeg … er fy mod, wrth ysgrifennu’r adolygiad hwnnw, wedi meddwl fy mod yn cnoi fy nhafod, rhag ofn ypsetio unrhyw un. Oni ddylwn fod wedi bod yn onest wrth adolygu?
Mae modd gweld bod nifer o fandiau yn ddigon parod i rannu a brolio am adolygiadau da, ond yn aml yn anwybyddu rhai nad ydynt mor ffafriol.
Wrth gwrs, os ydych yn creu unrhyw beth yn greadigol, mae’n anodd iawn delio ag unrhyw fath o feirniadaeth, ond onid yw’r hyn a elwir yn ‘constructive criticism’ yn fuddiol i gantorion?
Yn aml, os ydwyf yn mentro dweud unrhyw beth negyddol am ddarn o gerddoriaeth, sylwaf fy mod yn ymddiheuro, fel pe bawn yn gwneud rhywbeth wirioneddol ofnadwy o’i le wrth ddweud nad ydyw’n hoff o rywbeth – mae “nid at fy nant i” yn ymadrodd rwy’n ei ddweud yn llawer rhy aml fel esgus am wneud hyn o beth.
Yn y diwydiant cerddoriaeth Saesneg, mae’n ddigon hawdd i’r adolygydd aros yn berson anhysbys, gan fod yn enw di-nod ar waelod tudalen. Mewn gwlad fach fel Cymru, mae pethau’n wahanol.
Wrth adolygu, rwyf innau’n ymwybodol iawn ei fod yn ddigon posib y byddaf yn dod wyneb yn wyneb â’r band neu’r cantor mewn gig yn y dyfodol. Nid fy mod i’n disgwyl ffeit na rhyw gweryl dramatig, ond gallai fod yn brofiad lletchwith pe bawn yn gorfod cyflwyno fy hun i fand neu artist yr wyf wedi ysgrifennu adolygiad anffafriol amdanynt – a phrofiad y byddai’n well gennyf osgoi.
Dewisiadau doeth …
Wrth gwrs, o’m mhrofiad innau, rwyf yn aml yn dewis yr hyn rwyf am ei adolygu. Rwy’n dueddol o sticio at yr un genre, ac adolygu roc trymach neu pync gan amlaf – adolygiadau o EPs Blaidd a Castro yw’r pethau diwethaf i mi eu hadolygu. Nid wyf yn mentro dewis rhywbeth gwahanol i’r hyn y byddaf yn gwrando arno o ddydd i ddydd.
Felly, afraid dweud, rwyf eisoes yn ffan o’r fath yna o gerddoriaeth cyn mynd ati i’w adolygu. Ni fyddwn i fyth yn meiddio adolygu albwm Gwyneth Glyn neu sengl gan Gramcon, gan na fyddwn yn teimlo’n hyderus yn trafod genre anghyfarwydd i mi.
Efallai bod angen ail-ystyried hyn. Efallai, wrth drafod albwm neu EP newydd, y dylem gyflwyno adolygiad gan rywun sy’n mwynhau’r genre dan sylw cyfochrog ag adolygiad gan rywun sy’n gwrando ar rywbeth o’r newydd.
Byddai’n sicr yn creu darlun mwy cyflawn a chytbwys i ddarn o gerddoriaeth. Mae’n ddigon posib y byddai cyflwyno genres gwahanol i adolygyddion (gan gynnwys fi fy hun) yn ehangu eu gorwelion cerddorol hefyd – ac nid yw hynny’n ddrwg o beth.
Bod yn onest
Wrth gwrs, mae’n rhaid i adolygydd allu pwyso a mesur manteision ac anfanteision mewn ffordd deg. Dyw dweud ‘wel, mi oedd e’n rybish’ ddim yn ddigonol mewn adolygiad.
Nid wy’n ceisio ysgogi neb i ysgrifennu am eu cas-ganeuon chwaith, dim ond i ystyried bod yna farn tu hwnt i adolygiad, ac nad gan yr adolygydd mae’r gair olaf.
Nid ymosodiad personol ar rywbeth neu rywun yw adolygiad; barn unigolyn ydyw, boed hynny’n farn bositif neu beidio.
Mae’n bryd i bobl beidio ag ofni adolygiadau onest a’u derbyn yn rhan annatod o greu sin gerddoriaeth iach – wedi’r cwbl, mae’n amhosib i bawb hoffi popeth ac nid oes raid bod yn “neis” drwy’r amser.
I roi adolygiad cadarnhaol (neu feirniadol) i flog Miriam, gallwch drydar ati ar @miriamelin23.