Bannau Brycheiniog
Mae darllenwyr y llyfrau teithio adnabyddus y Rough Guides wedi dweud fod Cymru yn un o’r pum gwlad orau i ymweld â nhw yn ystod 2014.
Mewn arolwg diweddar, cafodd Cymru ei henwi ochr yn ochr â Chile, Malaysia, Slofenia a Phacistan mewn rhestr o’r gwledydd gorau i ymweld â nhw yn 2014.

Dywedodd Rough Guides bod Cymru’n cynnwys digonedd o harddwch naturiol mewn darn bach o dir.

Dywedodd eu darllenwyr ar Facebook mai’r Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd Cambria oedd yr uchafbwyntiau.

Fe esboniodd Tim Chester, Uwch Olygydd RoughGuides.com, sut mae’r rhestr yn gweithio a pham bod Cymru wedi’i dewis.

‘Rhyfeddodau Cymru’

Meddai: “Pryd bynnag y byddwn yn cyhoeddi rhestrau fel hyn, rydym yn ceisio barn ein darllenwyr  hefyd.

”Felly, fe ofynnom ni i ddefnyddwyr ein gwefan, yn ogystal â’n dilynwyr ar Twitter a’n cefnogwyr ar Facebook, i bleidleisio dros eu hoff wledydd a dinasoedd i ymweld â nhw yn 2014. Cefais i fy atgoffa o ryfeddodau Cymru yn ystod taith o amgylch Bannau Brycheiniog y Pasg diwethaf.”

Dywedodd y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart: “Mae’n newyddion gwych bod Cymru wedi  dod i’r brig ymhlith y gwledydd gorau yn y byd i ymweld  â nhw gan Rough Guides.

“Yn well fyth, y darllenwyr a bleidleisiodd dros Gymru – dyna dangos ein bod yn cynnig profiad gwych i’r rhai sy’n dod yma ar wyliau. Gyda’r newyddion da bod 2013 yn flwyddyn lwyddiannus iawn ar gyfer twristiaeth yng Nghymru, gyda chynnydd yn nifer yr ymwelwyr,  mae hwn yn ddechrau addawol i 2014.”