Prifysgol Aberystwyth
Bydd dwy fyfyrwraig ôl-raddedig o Brifysgol Aberystwyth yn cael eu gwaith wedi’u cyhoeddi ar ôl i’w gwaith creadigol ddenu sylw Prydeinig.

Bydd Gretel and the Dark gan Eliza Granville, sydd ar hyn o bryd yn fyfyrwraig PhD mewn Ysgrifennu Creadigol, yn cael ei chyhoeddi gan Hamish Hamilton, un o wasgnodau Penguin, ar 6 Chwefror eleni.

Ac fe fydd nofel The Girl in the Red Coat gan Kate Hamer, sydd newydd gwblhau gradd MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn y Brifysgol, yn cael ei chyhoeddi gan Faber yng ngwanwyn 2015.

Gwaith cwrs ar gyfer ei MA oedd nofel Kate Hamer yn wreiddiol, sydd yn adrodd hanes merch ifanc o’r enw Carmel sydd yn mynd ar goll mewn gŵyl, a thaith frawychus y ferch a’i mam yn dilyn hynny.

‘Gwefreiddio’

Dywedodd Kate Hamer, a gafodd ei magu yn Sir Benfro ac sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, ei bod hi wedi’i “gwefreiddio” wrth glywed fod ei nofel am gael ei chyhoeddi.

Mae hi eisoes wedi dechrau datblygu enw da i’w hun o fewn cylchoedd llenyddol, gan ennill gwobr stori fer Rhys Davies yn ogystal â bwrsariaeth Llenyddiaeth Cymru.

Thema dywyll sydd hefyd i nofel Eliza Granville, Gretel in the Dark, sydd wedi’i osod yn Fienna yn 1899, ble mae’r seicoanalydd enwog Josef Breuer ar fin dod ar draws ei achos rhyfeddaf eto.

‘Camp anhygoel’

“Mae pawb yn yr adran yn hynod o falch dros Kate ac Eliza,” meddai Dr Katherine Stransfield, darlithydd Ysgrifennu Creadigol y Brifysgol.

“Mae cael eu derbyn gan gyhoeddwyr mor flaenllaw â Faber a Penguin yn gamp anhygoel, ac mae’n dystiolaeth o ansawdd yr ysgrifenwyr sy’n gweithio yn yr adran a’r gefnogaeth a roir iddynt gan y staff.”