Y bardd Nigel Jenkins Llun: Prifysgol Abertawe
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r bardd Nigel Jenkins a fu farw’r bore ma wedi salwch byr.
Cafodd ei fagu ym Mro Gwŷr a bu’n byw yn y Mwmbwls, Abertawe ble roedd yn gyd-gyfarwyddwr rhaglen ysgrifennu greadigol adran Saesneg Prifysgol Abertawe.
Roedd Nigel Jenkins yn fardd, newyddiadurwr ac awdur a enillodd Llyfr y Flwyddyn yn 1996 gyda’i lyfr teithio, Gwalia in Khasia.
Roedd hefyd yn un o gyd olygyddion Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig.
Dywedodd Peter Finch, bardd a chyn brif weithredwr Yr Academi Gymreig ar Twitter y byddai’n “anodd llenwi ei le.”
Meddai’r awdur Jon Gower ei fod yn “Gymro a chymwynaswr cenedl, awdur heb ei ail ac athro da.”
‘Athro ysbrydoledig’
Dywedodd is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard Davies: “Roedd presenoldeb awdurdodol Nigel yn cael ei deimlo yn y Brifysgol ymhell tu hwnt i’w adran ei hun. Er enghraifft, ysgrifennodd gerdd yn dathlu diwrnod graddio sydd wedi dod yn rhan annatod o’n seremonïau graddio. Wrth ddarllen y gerdd ei hun, fe ddaeth yn ddrama ddifyr.”
Mae’r nofelydd, yr Athro Stevie Davies, cyd-sylfaenydd cwrs MA ysgrifennu creadigol Prifysgol Abertawe, wedi disgrifio Nigel Jenkins fel “athro ysbrydoledig, awdur rhagorol a ffrind ffyddlon i awduron, beirdd, dramodwyr ac artistiaid o bob math ledled a thu hwnt i Gymru.
“Roedd staff a myfyrwyr, y presennol a’r gorffennol, yn hoff iawn ohono a byddwn ni’n hiraethu amdano’n fawr.”
‘Llais unigryw’
Dywedodd Dr Dai Lloyd, darpar-ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru ar gyfer Gorllewin Abertawe:
“Roedd gwaith Nigel Jenkins yn ysbrydoliaeth i Cymru gyfan. Roedd gydag ef y ddawn werthfawr o’n helpu ni chwerthin amdanon ni ein hunain, yn ein dwy iaith – ond ar yr un pryd werthfawrogi’r hyn sydd gan ein cenedl i’w gyfrannu i’r byd.
“Fel Dylan Thomas, sydd â chanmlwyddiant ei eni eleni, mae ei farddoniaeth a’i gyhoeddiadau rhyddiaith arbennig wedi rhoi Abertawe, Gŵyr a Chymru ar lwyfan y byd.
“Rown i’n ffodus o’i adnabod yn dda – aeth ein plant i’r un ysgolion Cymraeg ac fe groesodd ein llwybrau’n aml, yn wleidyddol yn ogystal ag yn ddiwylliannol.
“Bydd colled mawr ar ei ôl, yn ardal Abertawe yn arbennig, ond bydd ei lais unigryw’n parhau i fyw yn ei waith ysbrydoledig.”