Samira Mohamed Ali
Mae’r ffilm arswyd Prydeinig ‘Molly Crows’, sy’n cynnwys yr actores Gymreig Samira Mohamed Ali fel un o’r prif actorion, wedi ennill gwobr y ‘Brif Ffilm Arswyd Orau’ mewn gwobrau ffilm ym Moscow.

Hon yw’r ail wobr i’r ffilm ennill, ar ôl iddi hefyd gipio gwobr y Brif Ffilm yng Ngŵyl Ffilmiau Portobello ym Medi 2013 gan guro 700 cystadleuydd ledled Ewrop.

Dyma’r ffilm gyntaf yn y DU lle mae Samira wedi chwarae’r brif ran, gyda’r actores o Gastell-Nedd yn derbyn canmoliaeth uchel gan y cynhyrchydd Ray Wilkes am ei pherfformiad.

Mae cyd-actores Samira yn y ffilm, y ferch 8 mlwydd oed Mercy Gaiger, sydd yn chwarae rhan Jess, hefyd yn Gymraes.

Cafodd y ffilm, sydd wedi’i selio ar ddigwyddiadau go iawn yn y ddeunawfed ganrif mewn pentref gerllaw tref Stoke-on-Trent, ei ddangos am y tro cyntaf yn ystod Wythnos Galan Gaeaf ym Mhort Talbot.

Yn ogystal â ‘Molly Crows’ bydd Samira’n actio’r prif rannau mewn nifer o ffilmiau eraill eleni, gan gynnwys y ffilm Hollywood o ‘Doctor Who’ i ddathlu hanner can mlynedd y gyfres boblogaidd, a dwy ffilm Bollywood.

Tu allan i fyd actio, mae Samira hefyd wedi modelu i wahanol frandiau ar gyfer sawl cwmni rhyngwladol, gan ennill sawl cystadleuaeth harddwch gan gynnwys Miss Ewrop, a chyrraedd y deg uchaf yng nghystadleuaeth ‘Supermodel’ y Byd yn 2012.