Pete Seeger gyda'i wraig Toshi
Mae’r canwr gwerin o’r Unol Daleithiau, Pete Seeger, wedi marw yn 94 oed.

Dywedodd ei ŵyr, Kitama Cahill-Jackson, bod ei daid wedi marw yn ei gwsg tua 9.30yh neithiwr mewn ysbyty yn Efrog Newydd lle’r oedd wedi bod yn cael triniaeth am chwe diwrnod.

Roedd Seeger yn enwog am ganu’r banjo a chaneuon fel If I Had A Hammer, Turn, Turn, Turn, Where Have All The Flowers Gone a Kisses Sweeter Than Wine.

Bu’n canu gyda Woody Guthrie yn ei ddyddiau cynnar ac yn gorymdeithio gyda phrotestwyr Occupy Wall Street pan oedd yn ei 90au. Fe leisiodd ei wrthwynebiad i Hitler, y rhyfel yn Fietnam ac Irac, ac ynni niwclear. Bu hefyd yn aelod amlwg o’r mudiad hawliau sifil.

Am fwy na degawd, ni chafodd ei gerddoriaeth ei darlledu ar deledu yn America oherwydd ei fod ar un adeg wedi bod yn aelod o’r Blaid Gomiwnyddol. Fe dreuliodd y cyfnod hwnnw yn perfformio i fyfyrwyr mewn colegau ar hyd a lled y wlad.

Ym 1943 fe briododd ei wraig Toshi. Roedd ganddyn nhw dri o blant. Bu farw Toshi Seeger y llynedd yn 91 oed.