Mae aelodau’r asiantaeth gerddoriaeth Eos wedi penderfynu bwrw mlaen i drafod amodau cytundeb darlledu newydd gyda’r BBC.
Roedd y corff casglu breindal wedi gobeithio am gyfanswm o daliadau o £1.5m yn flynyddol gan y BBC, am chwarae cerddoriaeth Gymraeg ar Radio Cymru. Ond fe benderfynodd tribiwnlys y dylai’r BBC dalu £100,000 y flwyddyn am hawliau i ddarlledu cerddoriaeth aelodau Eos.
Mewn dau gyfarfod – yng Nghaernarfon ddydd Gwener ac yng Nghaerdydd neithiwr – mae aelodau’r asiantaeth gerddoriaeth Gymraeg wedi pleidleisio i barhau hefo Eos fel corff casglu ac i drafod telerau’r cytundeb.
‘Man cychwyn’
“Mae gennym ni fandad gan yr aelodau i barhau hefo trafodaethau gyda’r BBC,” meddai Dafydd Roberts, Cadeirydd bwrdd Eos.
“Dim ond man cychwyn ydy dyfarniad y tribiwnlys. Mi fyddwn ni rŵan yn mynd ati i drafod telerau’r drwydded ac agweddau eraill oedd ddim wedi eu cynnwys yn y drwydded wreiddiol.
“Mae’r BBC wedi cydnabod gwerth a phwysigrwydd cerddoriaeth Gymraeg ar Radio Cymru, ac mae hynny’n gosod cynsail pwysig iawn.”
Roedd aelodau Eos am weld rhagor o dâl am chwarae eu cerddoriaeth ar orsafoedd radio’r BBC, yn cynnwys Radio Cymru, wedi iddyn nhw adael asiantaeth PRS yn 2007.
Cynhaliwyd y Tribiwnlys Hawlfraint annibynnol yng Nghaernarfon ym mis Medi ar ôl i Eos a’r BBC fethu â chytuno ar delerau i chwarae’r gerddoriaeth yn gynharach eleni.