Tir Sir Gar
Roedd hi’n noson i ddathlu cyfraniad actorion a chwmnïau theatr Cymru nos Sadwrn, wrth i Wobrau Beirniaid Theatr Cymru gael eu cynnal yn Theatr Sherman, Caerdydd.
Dyma’r ail flwyddyn i’r gwobrau gael eu cynnal ar ôl cael eu sefydlu gan yr Young Critics Scheme y llynedd. Nicola Heywood-Thomas oedd yn arwain y noson unwaith eto eleni.
Fe aeth y prif wobrau i gynhyrchiad y Theatr Genedlaethol, Blodeuwedd am y Cynhyrchiad Cymraeg Gorau, a Tir Sir Gar yn derbyn y wobr am gynhyrchiad gorau’r cyhoedd, yn dilyn pleidlais gan ddarllenwyr Golwg a Golwg360.
Owain Arwyn enillodd y wobr am yr Actor Gwrywaidd Gorau am ei bortread o Handi Al yn nrama Aled Jones Williams, Pridd.
A Rhian Morgan a dderbyniodd y wobr am yr Actor Benywaidd Gorau, am ei pherfformiad yn Dyled Eileen gan Angharad Tomos.
Roedd dau o gewri byd drama, Aled Jones Williams a Meic Povey yn mynd benben â’i gilydd am wobr y Dramodydd Cymraeg Gorau ond Roger Williams aeth a hi am Tir Sir Gâr.
Yr enillwyr
Dyma restr o rai o’r enillwyr:
Perfformiad gorau gwrywaidd yn yr iaith Gymraeg
Owen Arwyn: Pridd – Theatr Genedlaethol Cymru
Perfformiad gorau benywaidd yn yr iaith Gymraeg
Rhian Morgan: Tir Sir Gar – Theatr Genedlaethol Cymru
Cynhyrchiad yn yr iaith Gymraeg
Blodeuwedd – Theatr Genedlaethol Cymru
Gwobr y cyhoedd: Tir Sir Gar – Theatr Genedlaethol Cymru
Dramodydd (Cymraeg)
Roger Williams: Tir Sir Gar – Theatr Genedlaethol Cymru
Cyfarwyddwr
Wils Wilson: Praxis Makes Perfect – National Theatre Wales
Cynhyrchiad opera
Lulu – Opera Cenedlaethol Cymru
Addysgwr ysbrydoledig
Ioan Hefin: You Should Ask Wallace – Theatr na nÓg
Cerddoriaeth a Sain
Dan Lawrence – The Bloody Ballad (Gagglebabble)
Cynllunio a gwisgoedd
Rachel Canning – Sleeping Beauties (Sherman Cymru)
Cynhyrchiad yn yr iaith Saesneg
Parallel Lines – Dirty Protest