John Hardy
Mae stiwdio cwmni cynhyrchu Rondo yng Nghaernarfon yn gartref i raglenni poblogaidd fel Sgorio a’r rhaglen banel Gwefreiddiol.
Ond mae’n debyg bod yr adeilad yn gartref i ysbrydion hefyd yn ôl gwesteion ar Cadw Cwmni gyda John Hardy.
Y bardd Elwyn Edwards o’r Bala a Ceri Hughes o Lanrwst yw dau o westeion y rhaglen fydd ymlaen heno am 9:30yh i drafod eu profiadau’n gweld ysbrydion.
Fe gafodd Elwyn Edwards ei gyfarfyddiad cyntaf gydag ysbrydion yn 1986 ac ers hynny mae wedi cwrdd â myrdd o ysbrydion, gan gynnwys rhai pobl adnabyddus fel Owain Glyndŵr a Llywelyn ein Llyw Olaf.
Fe gafodd Ceri ei phrofiad cyntaf pan roedd hi’n marchogaeth ei cheffyl rhwng Llanfair Talhaearn a Llangernyw yn sir Conwy a hithau ond yn wyth oed.
Mae Elwyn a Ceri wedi cyfarfod nifer o ysbrydion gyda’i gilydd, gan gynnwys un profiad ysgytwol gyda mynach gafodd ei grogi ar ôl i’w fynachdy losgi. Ond roedden nhw hefyd yn synhwyro rhywbeth yn y stiwdio deledu.
Meddai Ceri Hughes: “Roeddwn i’n meddwl mod i wedi synhwyro rhywbeth yn yr ystafell aros. Fe deimlais i un neu ddau ysbryd.”
Ychwanegodd Elwyn Edwards: “Mae rhywbeth yma yn y stiwdio yn mynd a dod…. ond dwi’n gorfod blocio fo. Hwyrach y ca i ddim byd achos bod cymaint o bobl yn mynd a dod yma.”
Yn ôl Elwyn, mae’r ysbrydion yma’n aml yn bobl sydd wedi methu croesi o fywyd i farwolaeth ac efallai wedi marw’n sydyn. Mae’r profiad o’u cwrdd yn digwydd i bobl ‘psychic’, meddai, a dyw Elwyn ddim yn disgwyl i bobl sydd ddim yn psychic ddeall.
“Dwi ddim ishe profi dim byd a dwi ddim yn disgwyl i bobl sydd ddim wedi cael y profiad fy nghredu i. Mae rhywun fel Ceri yn gwybod yn iawn beth ydi’r profiad, mae o fyny iddyn nhw i gredu ni ai peidio.”
“Rydyn ni’n cael ein geni yn psychic. Mae plant yn aml yn arbennig o psychic. Mae eu rhieni’n meddwl eu bod yn siarad â’u hunain ond yn aml iawn, maen nhw’n siarad ag ysbrydion. Mae modd gweld a theimlo ysbrydion yn unrhyw le, does dim dal lle.”
Meddai cynhyrchydd y rhaglen, Beth Angell: “Yn bersonol, dydw i ddim wedi cyfarfod yr un ysbryd yn stiwdio Rondo.
“Yr hyn y gallaf ddweud ydi ein hod ni fel tîm cynhyrchu wedi cael y fraint o gyfarfod llawer o bobl ddifyr wrth ffilmio’r gyfres. Mae eu gonestrwydd wrth adrodd eu hanes wrth John Hardy wedi creu ymateb da iawn.”