Paul McCartney
Fe wnaeth Paul McCartney a Ringo Starr o’r Beatles berfformio ar lwyfan unwaith eto yn seremoni’r Grammys yn Los Angeles neithiwr.
Wrth berfformio can newydd Paul McCartney, Queenie Eye, roedd McCartney yn eistedd wrth ei biano amryliw a Starr yn ei sedd arferol y tu ôl i’r drymiau.
Cyhoeddodd yr actores Julia Roberts fod y band am dderbyn Gwobr Llwyddiant Recordio Oes 2014 y mis nesaf.
Mae’r seremoni yn gwobrwyo’r perfformiadau cerdd gorau.
Yr enillwyr
Y band o Ffrainc, Daft Punk, oedd prif enillwyr y noson gan ennill albwm y flwyddyn – Random Access Memories, record y flwyddyn – Get Lucky, a’r perfformiad grŵp gorau.
Fe enillodd Adele y wobr am y gan orau ar gyfer cyfryngau gweledol, gyda’i chan Skyfall, sydd eisoes wedi ennill Oscar a Golden Globe.
Y ferch 17 oed o Seland Newydd, Lorde, gipiodd y wobr am y gan orau hefo Royals, a’r perfformiad pop gorau.
Band Ozzy Osbourne, Black Sabbath, oedd yn fuddugol yng nghategori’r perfformiad roc gorau.
LL Cool J oedd yn arwain y seremoni, a ddechreuodd hefo perfformiad gan Beyonce a Jay Z.