Mirian Elin Jones
Miriam Elin Jones sy’n galw am barhau’r momentwm o gigs dros wyliau’r Nadolig drwy gydol y flwyddyn …
Ymddiheuraf o flaen llaw, fy mod, unwaith eto, yn mynd i godi’r un hen grach, a thrafod prinder gigs Cymraeg yn y Gorllewin. Cyn i chi benderfynu peidio darllen yr un pwnc llosg bondigrybwyll eto, rwy’n ymbil arnoch i barhau i ddarllen, gan mai pethau positif (yn bennaf) sydd gennyf i’w dweud.
Mae gigs Cymraeg yn brin yn y Gorllewin. Sir Gaerfyrddin yw fy ardal leol i, a gallaf gyfri gydag un llaw nifer y gigs Cymraeg a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin dros y misoedd diwethaf. Rwy’n ymwybodol bod sefyllfa Sir Benfro a Cheredigion yn waeth.
Hyd yn oed mewn tref prifysgol fel Aberystwyth, does fawr ddim gigs Cymraeg yn cael eu cynnal. A phan gynhelir gig, mae’r gynulleidfa’n amrywio o hanner cant i gant (a hynny ar noson dda).
Newid ar droed?
Fodd bynnag, dros gyfnod y Nadolig, cynhaliwyd dwy gig sydd wedi fy arwain i gredu bod yna fomentwm newydd i gigiau Cymraeg yn y Gorllewin.
Daeth 110 o bobl i Gig Nadolig Cymdeithas yr Iaith yn y Parrot, yng Nghaerfyrddin, tra llenwyd Neuadd y Farchnad yng Nghrymych gan dros 400 o bobl yn ystod y gig a drefnwyd ar y cyd gan Mafon a Menter Iaith Sir Benfro.
Roedd Sŵnami a Bromas yn chwarae’r ddwy noson – gyda Chwyn a’r Banditos yn eu cefnogi’r noson gyntaf, ac Y Bandana ac Y Ffug yn ymuno gyda nhw i’r ail. Dwy gig wych sy’n adlewyrchu talent ifanc y sin ar hyn o bryd.
Dros 500 o bobl – a’r rhan fwyaf yn bobl ifanc – mewn deuddydd yn gwneud yr ymdrech i fynd i weld cerddoriaeth byw. Onid yw hyn yn dyst fod cynulleidfa ar gyfer gigs Cymraeg yn y Gorllewin yn bodoli? Os oedd cynifer yn ddigon parod i adael cynhesrwydd eu tai i fynd i gig, ar adeg o’r flwyddyn pan fo arian yn dynn, onid oes modd gweld hyn yn digwydd ar hyd y flwyddyn?
Daeth 7,000 i weld aduniad Edward H Dafis yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, sy’n gwneud y 500 uchod edrych yn nifer ddigon pitw. Yn ddiweddar, mae’r gig hwnnw wedi ennyn sawl trafodaeth – gweler blog Rhys Mwyn ac erthygl Nico Dafydd ar wefan Y Twll.
Breuddwyd ffôl byddai disgwyl cynulleidfa mor fawr eto, ond credaf ei fod yn dystiolaeth bellach fod yna bobl allan yno sydd am wrando ar gerddoriaeth Gymraeg fyw.
Sut i gadw’r momentwm …
Yn 2014, gobeithio wir y bydd momentwm gigiau Nadolig y Gymdeithas a Mafon yn parhau. Rydw i am weld gigiau y tu hwnt i Gaerdydd a Chaernarfon, a dyma ambell beth y credaf bydd werth ei wneud yn 2014 er mwyn sicrhau hynny.
- Parhau i siarad – mae angen cadw’r cynnwrf yn fyw er mwyn cadw diddordeb y darpar-gynulleidfa. Wrth gwrs, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn llwyfan naturiol ar gyfer gwneud hyn. Mae angen temtio pobl gyda chlipiau YouTube proffesiynol o’r gigs sydd wedi bod, a hysbysebu gigs i ddod.
- Cynnig mwy na ‘jyst gig’ – Rydym eisoes yn gyfarwydd â llwyfannu gweledol criw’r Nyth, ac yn gig Mafon, chwaraewyd fideos ar brojector yn gefndir i’r chwarae byw. Hefyd yn gig Mafon, roedd modd casglu bathodynnau yn rhad ac am ddim – dychmygwch y bathodynnau hynny ar fagiau ysgol ar hyd Sir Benfro a thu hwnt i bawb gael eu gweld. Unwaith eto, mae’n ennyn diddordeb pobl, ac mae’r elfen honno o nwyddau masnachol yn creu heip arbennig. A fyddai’n bosib i fwy o fandiau greu bathodynnau a/neu grysau-T a’u gwerthu’n weddol rad?
- Cefnogi – wrth gwrs, ni ddylai’r un ohonom fynd i gig os nad ydyn wir eisiau mynd i weld band. Ni ddylai cefnogi gigs Cymraeg fod yn ddyletswydd, ond mae modd gwneud pethau bach i helpu’r ymgyrch. Ail-drydar digwyddiad neu ei rannu ar Facebook – gwneud yn siŵr fod y newyddion am y gig yn cyrraedd cynifer a phosib.
Felly i grynhoi, mae angen creu cynnwrf a heip o amgylch cerddoriaeth Gymraeg unwaith eto. Rhaid i mi gyfaddef, nad ydw i erioed wedi trefnu gig – efallai y dylwn, er mwyn gwerthfawrogi gwaith caled trefnwyr lleol – ond mi wn fod angen gwneud mwy na chroesi bysedd i gadw’r momentwm i fynd.
Ar ddechrau 2015, os byddaf yn dal i flogio, gobeithiaf y byddaf yma yn brolio fy mod wedi gweld blwyddyn arbennig o gerddoriaeth byw, yn y Gorllewin a thu hwnt