Golygydd Y Selar, Gwilym Dwyfor, sydd wedi bod yn gwrando ar albwm cyntaf y band ifanc o Gaerfyrddin, Bromas.
Un peth sydd yn eich taro am y casgliad yma ydi fod bob dim yn lân a thaclus iawn, mae’r lleisiau’n felfedaidd a’r cynhyrchu fel pin mewn papur.
A dwi’n foi sy’n gwerthfawrogi hylendid yn y mwyafrif o agweddau bywyd (personol a bwyd i enwi dim ond dwy), ond does dim rhaid i mi ei gael o yn fy ngherddoriaeth bob tro.
Mae’r trac agoriadol, ‘Alaw’ yn gwella’n sylweddol pan maen nhw’n ‘rocio allan’ yn ail hanner y gân, a’r ail drac, ‘Sal Paradise’ ydi’r unig un dwi ddim yn ei licio o gwbl.
Gyda ‘Grimaldi’ ac ‘Y Drefn’mae’r casgliad yn dechrau cydio go iawn.
Dwi’n licio’r dryms ar y ddau drac yma, mae’r riff ‘Grimaldi’ yn un hynod gofiadwy ac mae yna ddarn gwych tuag at ddiwedd ‘Y Drefn’ pan mae pob dim ar wahân i un gitâr yn stopio.
Ceir cyffyrddiadau seicedelig neis ar ‘Hollow Men’ ac mae hanner cyntaf ‘Nos Galan’ yn dangos gallu’r band i gyfansoddi rhywbeth mwy araf a theimladwy.
Gorffennir gyda chytgan fachog a crescendo dryms enfawr ‘Cysgu’n Brysur’.
Mae Byr Dymor yn dangos bod Bromas yn gallu chwarae, ac er bod yna ddigon i’w werthfawrogi yn y casgliad yma, mae gen i fwy o ddiddordeb yn yr hyn fydd y band yn ei wneud yn yr hir dymor.
6/10
Daw’r adolygiad hwn o rifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar – mae modd darllen fersiwn digidol o’r rhifyn yma.