Mi fydd Theatr Genedlaethol Cymru yn mynd â Blodeuwedd Saunders Lewis ar daith o theatrau Cymru, yn dilyn perfformio’r ddrama eleni yn yr awyr agored yn Nhomen y Mur ger Trawsfynydd.

Bydd Dyled Eileen yn cael ei llwyfanu yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gaerfyrddin.

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn derbyn £1,052,942 o bres cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru.

Datblygiad digidol efo potensial rhyngwladol

Yn ogystal â pharhau gyda dramodydd traddodiadol ar lwyfan mi fydd y cwmni yn ymestyn tuag at elfen digidol ar ol derbyn nawdd gan Gronfa Ymchwil a Datblygu Digidol ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru. Sibrwd fydd y prosiect cyntaf mewn cydweithrediad â chwmni Galactica.

Dywedodd y cwmni mewn datganiad bod gan Sibrwd “y potensial i fod o ddefnydd rhyngwladol drwy gynnig mynediad i berfformiadau a phrosiectau mewn unrhyw iaith.”

Drama’r Haf

Cynhyrchiad yr haf yw Y Negesydd mewn partneriaeth â Theatr Felinfach.

Dyma ddrama newydd gan yr awdures Caryl Lewis fydd yn cael ei chyfarwyddo gan yr actores adnabyddus Ffion Dafis. Wedi ei gosod yng nghefn gwlad Ceredigion yn ystod y 1950au a’r 1960au.

Chwalfa

Mewn cydweithriediad â’r prosiect Phontio a Chwmni’r Frân Wen, mi fydd y Theatr Genedlaethol yn llwyfannu addasiad Gareth Miles o nofel nofel  T Rowlad Hughes Chwalfa ym mis Medi.