Ann Clwyd yn derbyn ei gwobr
Mae Ann Clwyd wedi cael ei gwobrwyo yn Wleidydd y Flwyddyn Cymru eleni, am ei gwaith yn amlygu problemau y mae pobl wedi wynebu wrth gwyno am y Gwasanaeth Iechyd.
Mewn seremoni nos Fawrth yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, fydd yn cael ei darlledu ar ITV Cymru heno, cafodd yr Aelod Seneddol Llafur o Gwm Cynon gydnabyddiaeth am ei gwaith yn y maes iechyd.
Cafodd ei phenodi gan y Prif Weinidog David Cameron yn gynharach yn y flwyddyn i gynghori ar sut y gall ysbytai ddelio â chwynion yn well, ar ôl iddi brotestio ynglŷn â’r gofal a dderbyniodd ei diweddar ŵr yn yr ysbyty y llynedd.
Aeth gwobr Aelod Cynulliad y Flwyddyn i’r Democrat Rhyddfrydol Peter Black, y meinciwr cefn cyntaf i ddod a Deddf y Cynulliad, Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, yn gyfraith am y tro cyntaf.
Guto Bebb – AS y Flwyddyn
Y Ceidwadwr o Aberconwy Guto Bebb gafodd ei enwi’n Aelod Seneddol y Flwyddyn, am fynnu cywiriad gan fanciau oedd yn cam-drin busnesau bach yn Nhŷ’r Cyffredin.
Suzy Davies, Aelod Cynulliad Ceidwadol dros Dde Orllewin Cymru, oedd enillydd y wobr Aelod Addawol am ei chyfraniad i faniffesto’i phlaid yng Nghymru, tra aeth Ymgyrchydd y Flwyddyn i Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Rhodri Glyn Thomas, am ei waith yn ymgyrchu i dorri treth gyngor.
Rhoddwyd gwobr Cyfraniad Oes i’r Arglwydd Elystan Morgan, cyn-Aelod Seneddol Llafur dros Geredigion a arweiniodd ymgyrch ‘Ie’ dros ddatganoli yn 1979, ac a roddodd araith ar y noson ar daith datganoli yng Nghymru hyd yn hyn.
Aeth Gwleidydd Lleol y Flwyddyn i David Phillips, Arweinydd Cyngor Dinas Abertawe, am flaenoriaethu trechu tlodi.
‘Cydnabod gwaith ein gwleidyddion’
Cafodd yr enillwyr eu dewis gan banel a gadeiriwyd gan Dr Denis Balsom, gyda phob un o’r enillwyr yn derbyn potel o wisgi Cymreig Penderyn a chartŵn o’u hunain fel gwobr, yn ogystal â’u tlws.
Wrth drafod y gwobrau dywedodd Dr Denis Balsom: “Sefydlwyd Gwobrau Gwleidyddol Cymru’r Wales Yearbook i gydnabod gwaith ein gwleidyddion ac i herio’r agwedd o ddrwgdybiaeth a’r anfodlonrwydd eang ynghylch y broses wleidyddol.
“Mae’r mwyafrif o wleidyddion yn gweithio’n hynod o galed i gynrychioli Cymru a’u hetholaethau yn y Cynulliad ac yn San Steffan. Mae’r Gwobrau yn un ffordd y gallwn gydnabod eu gwaith gwerthfawr.”
Cyflwynwyd gwobrau’r noson, a gafodd ei gyd-drefnu gan ITV Cymru a chyhoeddwyr y Wales Yearbook, FBA, gan Jonathan Hill a Ruth Wignall o raglen Wales Tonight.
Talwyd teyrnged i Nelson Mandela yn ystod y noson hefyd, a chyn-arlywydd De Affrica wedi areithio yn adeilad y seremoni pan ddaeth i ymweld â Chymru yn 1996.
Mae’r seremoni wobrwyo yn cael ei darlledu ar ITV Cymru am 11.05yh heno.
Aelod Addawol: Suzy Davies AC
Gwleidydd Lleol y Flwyddyn: David Phillips
Ymgyrchydd y Flwyddyn: Rhodri Glyn Thomas AM
AC y Flwyddyn: Peter Black AC
AS y Flwyddyn: Guto Bebb AS
Gwleidydd y Flwyddyn: Ann Clwyd AS
Cyflawniad Oes: Arglwydd Elystan Morgan