Mae Gai Toms wedi cyhoeddi’i fod am ryddhau sengl newydd, ‘Cefn Trwsgl’, cyn y Nadolig – gydag elw’r gwerthiant yn mynd tuag at achos sy’n agos at ei galon.
Bydd yr arian o werthiant ‘Cefn Trwsgl’, sydd ar gael i’w lawr lwytho’n unig o ddydd Llun 16 Rhagfyr ymlaen, yn mynd tuag at Apêl Cwmorthin, sy’n ceisio adfer adfeilion hen dai yng Nghwmorthin.
Cymdeithas Cofio Cwmorthin ac Antur Stiniog sy’n cydweithio ar y prosiect, sydd yn ceisio achub rhai o Dai Llyn y cwm.
Mae’r sengl ei hun yn cyfuno synau gwerin a diwydiannol, sydd yn ôl Gai Toms yn mynegi “ysfa am ryw fath o ddeffroad”, ac fe fydd fideo’n cael ei ryddhau gyda’r gân hefyd.
Ond nid dyma’r unig beth sy’n cymryd sylw’r canwr ar hyn o bryd – mae wrthi’n gweithio ar albwm newydd o’r enw ‘The Wild, the Tame And the Feral’, fydd yn cael ei rhyddhau rywbryd flwyddyn nesaf.
Bydd Gai Toms hefyd ar y daith ‘Dammed Nations’ o gwmpas Cymru a Lloegr gyda Siân James a Nuba Nour, ym mis Mawrth ac Ebrill 2014.
Gallwch wrando ar sengl newydd Gai Toms, ‘Cefn Trwsgl’, ar raglen C2 Griff Lynch ar Radio Cymru drwy ddilyn y ddolen.