Cai Morgan fu’n gwrando ar sengl ddiweddaraf Gwenno ar gyfer rhifyn mis Rhagfyr o gylchgrawn Y Selar

Caewch eich llygaid a gwasgwch play, wrth i ni gamu unwaith eto ar chwyrligwgan seicedelig electro-popaidd Gwenno.

Mae llinell fas gadarn a churiad dryms cryf ‘Chwyldro’ yn cario casgliad o synths meddal a llais diniwed Gwenno am orymdaith bum munud o gerddoriaeth pop newydd o’r brifddinas.

Dyma ddatblygiad cyffrous i Gwenno, o sŵn DIY traciau fel ‘Despenser St’ ar EP Ymbelydredd, i sŵn lot fwy mawreddog ac aeddfed. Ond un nodwedd sydd wedi aros yw’r alawon syml a chofiadwy.

Wrth wrando ar y ‘Chwyldro’, y geiriau ‘Paid anghofio fod dy galon yn y chwyldro’ fyddwch chi’n eu hailadrodd drosodd a throsodd, mewn rhyw fath o drans hudolus y mae Gwenno wedi llwyddo i’n rhoi ynddo unwaith eto.

Ceir b-side ar ffurf ‘A B C CH D’ ac ailgymysgiad o ‘Chwyldro’ gan R.Seiliog hefyd.

Mae’r sengl ar gael ar ffurf ddigidol ac mae ’na nifer cyfunedig o gopïau CD ar gael o wefan Peski.co.uk, felly dwi’n argymell i chi brynu hon cyn i’r copïau ddiflannu.

8/10

Daw’r adolygiad yma o rifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar sydd ar gael i’w ddarllen yn ddigidol yma.