Ciron Gruffydd fu’n gwrando ar albwm newydd The Gentle Good ar gyfer rhifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar.
O’r nodyn cyntaf un, mae rhywun yn cael y teimlad bod The Gentle Good yn cyflwyno rhywbeth arbennig iawn yn ei record ddiweddaraf.
Wrth ddechrau gyda recordiad o farchnad brysur yn Tsiena sy’n arwain at synau offerynnau traddodiadol y wlad ynghyd â sŵn gitâr werinol Gareth Bonello, mae’n llwyddo i gymysgu diwylliannau’r gorllewin a’r dwyrain yn hawdd ac effeithiol.
Yna, mae’r daith yn dechrau wrth i ni ddilyn bywyd y bardd Li Bai trwy’r caneuon lle mae gallu geiriol Bonello yn amlygu ei hun. Mae llawer o waith wedi mynd i gynhyrchu’r albwm ac mae hynny’n dangos yn y casgliad arbennig o ganeuon ac yn y ffordd mae cerddoriaeth dau ddiwylliant yn asio mor berffaith.
Yn ogystal â hynny, mae Laura J Martin, Lisa Jen a Richard James yn ymddangos ar y record. Mae’r ddeuawd gyda Lisa Jen ac ‘Yfed gyda’r Lleuad’ yn uchafbwyntiau heb os.
Mae’r record fel petai’n gam uwchben unrhyw record Gymraeg arall, a’r Bardd Anfarwol fydd y llinyn mesur i mi o hyn ymlaen. Un o’n hoff albyms i hyd yma eleni a dwi’n amau y bydd hi’n parhau i fod wedi i mi wrando arni am y milfed gwaith.
9/10
Adolygiad o rifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar. Darllenwch fwy o adolygiadau, cyfweliadau ac erthyglau cerddoriaeth eraill yn y fersiwn ar-lein.