Uwch Olygydd cylchgrawn cerddoriaeth Y Selar, Owain Schiavone, sy’n trafod y twf yn y nifer o recordiau hir Cymraeg sydd wedi’i rhyddhau eleni…

Wrth i ni baratoi i agor pleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar dwi’n wynebu’r her flynyddol o geisio casglu rhestr mor gyflawn â phosib o gynnyrch Cymraeg sydd wedi’i ryddhau’n ffurfiol dros y flwyddyn ddiwethaf.

Rhaid cyfaddef fod hon yn sialens oherwydd natur y sin Gymraeg ac anffurfioldeb isadeiledd y sin i raddau helaeth.

I fod yn gymwys yng nghategorïau ’Record Fer Orau’ a ‘Record Hir Orau’ gwobrau’r cylchgrawn, rhaid i’r cynnyrch fod bennaf Gymraeg (o leiaf 50% o’r record) ac wedi’i ryddhau neu gyhoeddi’n ffurfiol yn y flwyddyn dan sylw.

Mae recordiau Cymraeg yn cael eu rhyddhau gan nifer o wahanol ffynonellau – rhai gan labeli sefydledig, eraill gan labeli bach, a rhai gan y band eu hunain yn annibynnol. Mae sgiliau marchnata’r carfannau hyn yn amrywio, rhai yn well nag eraill, felly mae’n anodd i’r wasg a’r cyfryngau gadw trac yn llawn ar beth sy’n cael ei gyhoeddi.

Mae’r amrywiaeth yma’n wir mewn gwledydd ac ieithoedd eraill hefyd wrth gwrs, ond dwi’n tybio fod y carfannau uchod yn fwy hafal o safbwynt cerddoriaeth Gymraeg gyfoes gan nad oes ‘na labeli gwirioneddol fawr yn rheoli y farchnad.

Dyw’r chwyldro digidol ddim wedi helpu’r broses o lunio rhestr gyflawn chwaith – mae’n haws cadw golwg ar lwyfannau cyhoeddi ffurfiol fel iTunes, ond beth am wefannau fel Soundcloud? Os ydy band yn ‘rhyddhau’ cân i’w lawr lwytho am ddim ar Soundcloud, ydy hynny’n cyfri? Tydi’r mater ddim yn ddu a gwyn yn anffodus.

I gymhlethu pethau ymhellach, mae’r cwestiwn o ddiffinio beth sy’n ‘gyfoes’… ond mae honno’n drafodaeth ar gyfer blog arall.

Cynydd cadarnhaol

Er gwaetha’r her, rydan ni’n llwyddo i lunio rhestr gweddol agos ati erbyn hyn dwi’n credu.

Wrth edrych ar y rhestr, un peth sy’n taro rhywun ydy’r nifer fawr o recordiau hir sydd wedi’i rhyddhau yn 2013. Diffiniad ‘record hir’ fan hyn ydy albwm (LP), neu gryno albwm (mini album).

Ar y cyfri diwethaf mae ‘na 25 o recordiau hir cymwys, ac mae’n siŵr ein bod ni wedi methu ambell un (cysylltwch os ydan ni).

Mae hyn yn cymharu â’r 11 oedd ar y rhestr llynedd – cynnydd trawiadol, a chadarnhaol iawn!

Dadansoddi

Mi wnes i drio dadansoddi pam fod cyn lleied o recordiau hir llynedd a dod i benderfyniad mai cymysgedd o ddiffyg arian gan labeli, a’r newid yn y dulliau o ryddhau cerddoriaeth diolch i’r chwyldro digidol oedd yn gyfrifol.

Efallai mod i’n meddwl gormod am y pethau yma, ond dwi’n methu helpu trio dadansoddi’r cynnydd yn y nifer eleni.

O wneud syms cefn amlen, mae’n ymddangos i mi fod 9 o’r albyms yma wedi’u rhyddhau gan labeli ‘mawr’ (e.e. Sain, Fflach), 8 gan labeli bach, a 9 yn annibynnol.

Mae fformat cyhoeddi’n ddiddorol – er gwaethaf nerth y byd digidol, mae’r rhan fwyaf o albyms wedi’i rhyddhau ar ffurf galed. Dubula gan JJ Sneed ydy’r eithriad, sydd i’w lawr lwytho ar ei safle Bandcamp.

Diddorol gweld fod 5 o’r recordiau yn rai aml-gyfrannog. Ydy casgliadau fel hyn yn ffordd effeithiol  o gyhoeddi casgliad o ‘senglau’ gan artistiaid amrywiol tybed?

Yn bersonol, dwi’n credu fod adfywiad finyl yn ffactor hefyd. Mae nifer gynyddol o recordiau’n cael eu rhyddhau ar fformat ffasiynol finyl erbyn hyn, a dwi’n disgwyl gweld cynnydd pellach yn y cyfnod nesaf.

O edrych ar yr esiamplau Cymraeg – fel Y Record Las ac O’r Nyth – yn sicr mae rhyddhau albwm ar finyl yn cael ei weld fel cyhoeddi darn o gelf yn hytrach na chasgliad o ganeuon yn unig.

Neu, efallai mai hap a damwain ydy’r cyfan – fod llynedd yn digwydd bod yn flwyddyn dawel o ran albyms, a bod eleni’n un fywiog!

Mae un peth yn sicr, mae’n addo bod yn frwydr galed am deitl ‘Albwm orau 2013’ eleni.

Mae rhifyn diweddaraf Y Selar ar gael i’w ddarllen yn ddigidol, a bydd modd i chi bleidleisio dros albwm y flwyddyn, a’r holl gategorïau eraill o 17 Rhagfyr nes diwedd Ionawr ar dudalen Facebook Y Selar.

Os hoffech gynnig record hir, neu record fer i’w ychwanegu ar restr 2013 Y Selar yna e-bostiwch ar yselar@live.co.uk.