Sicrhau bod pawb sy’n cymryd rhan yn yr Eisteddfod Gylch yn derbyn tocyn a mynediad am ddim i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yw un o’r argymhellion sy’n cael ei gynnig mewn adroddiad gan weithgor Eisteddfod yr Urdd sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Cafodd y gweithgor,  dan gadeiryddiaeth y Barnwr Nic Parry, ei sefydlu ar ôl Eisteddfod yr Urdd Eryri ym Mehefin 2012 i edrych ar syniadau i ddatblygu’r Eisteddfod i’r dyfodol.

Mae’r adroddiad yn cynnig 12 argymhelliad ac roedd y gweithgor yn edrych ar bedwar thema oedd yn cynnwys  cystadlu a pherfformio, technoleg, ymestyn y dydd a phartneriaethau.

Mae argymhellion eraill yn cynnwys sefydlu Pafiliwn Technoleg er mwyn hyrwyddo’r cyfleoedd mae technoleg yn ei gynnig trwy’r Gymraeg i bobl ifanc a chydweithio gyda phartneriaid er mwyn ymestyn hyd y diwrnod ar faes yr Eisteddfod drwy gynnal rhagor o weithgareddau.

‘Cynigion arbennig’

Yn ôl Cadeirydd y Gweithgor Nic Parry: “Mae hi wedi bod yn gyfle heb ei ail i ni fel Gweithgor dwrio i grombil holl agweddau gŵyl genedlaethol lwyddiannus ieuenctid Cymru.

“Mae’r gwaith trafod a’r ymatebion yn datgan yn glir mai gŵyl gystadleuol yw Eisteddfod yr Urdd gyda chanran uchel o’r ymwelwyr yn mynychu’r ŵyl oherwydd y cystadlu.

“Mae’r cystadlu yn allweddol, ond un o argymhellion y Gweithgor yw bod angen denu’r miloedd sydd wedi cystadlu yn y cylch a’r rhanbarth, ond heb gyrraedd y genedlaethol i’r digwyddiad dros y Sulgwyn ym mis Mai. Rydym yn ystyried cyflwyno cynigion arbennig iddynt, mynediad yn rhatach efallai, i bawb sy’n mynychu’r Eisteddfodau Cylch.”

Pafiliwn Technoleg

Ychwanegodd: “Mae’r mudiad yn fudiad ieuenctid ac mae pobl ifanc â’i bysedd ar y pỳls. Gan ddatblygu ar lwyddiant y GwyddonLe, argymhelliad arall y Gweithgor yw bod angen ehangu a chyflwyno elfennau newydd technolegol i’r Maes. Trwy greu Pafiliwn Technoleg, cydweithio ag eraill a denu cwmnïau mawr gellid hyrwyddo’r cyfleoedd mae technoleg yn ei gynnig trwy’r Gymraeg i fywydau pobl ifanc.”

Argymhelliad arall sy’n cael ei gyflwyno yn yr Adroddiad yw bod Bwrdd yr Urdd yn ystyried patrwm diwrnod cystadlu Eisteddfod yr Urdd.

“Mae rhai plant a rhieni ar y maes o 7 o’r gloch y bore a rhai yn teithio i’r maes cyn hynny,” meddai Nic Parry

“Mae bwrlwm ar y maes yn fuan iawn ond dyw’r rhan fwyaf o’r stondinau ddim ar agor tan 9 y bore. Mae’r Gweithgor yn argymell bod ystyriaeth yn cael ei roi i ddechrau rhagbrofion yn hwyrach, dechrau cystadlu’r llwyfan yn hwyrach a gorffen sesiwn y prynhawn yn y pafiliwn yn hwyrach. Argymhellir hefyd bod stondinau yn adlewyrchu’r patrwm cystadlu.”

‘Trafodaeth ehangach’

Dywedodd Nic Parry: “Ein nod fel Gweithgor yw cyflwyno’r argymhellion i Fwrdd yr Eisteddfod fel sail i drafodaeth ehangach. Mae wedi bod yn fraint paratoi’r gwaith a bellach mater i’r Bwrdd a’r Urdd yw penderfynu a yw’r awgrymiadau yn ymarferol ac yn economaidd bosibl,” eglura Nic Parry.

Mae’r adroddiad nawr wedi cael ei gyflwyno i aelodau o Fwrdd Eisteddfod yr Urdd i’w ystyried. Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd sy’n cael ei gynnal yn Aberystwyth ym mis Ionawr 2014.