Mega
Miriam Elin Jones sydd yn pendroni pam nad yw ffiniau’r ‘sin roc Gymraeg’ yn ymestyn mor bell y dyddiau hyn.

Bûm yn falch iawn o ddarllen pwt golygyddol Gwilym Dwyfor Parry yn brolio twf y sin werin a’r sin electronig Gymraeg yn rhifyn diweddaraf Y Selar. Mae gorwelion yr hyn a grybwyllir gan amlaf fel ‘Y Sin Roc Gymraeg’ yn ehangu, a hen bryd hefyd.

Ond, ymddengys bod cerddoriaeth Gymraeg yn gerddoriaeth amgen, neu’n ymylol, rhywbeth i leiafrif diwylliedig o hyd. Oes yna le i holi a yw’r label bondigrybwyll ‘Sin Roc Gymraeg’ wedi bod yn niweidiol? Beth am ddiwylliant poblogaidd, ac oes yna le i’r grŵp all-singing-all-dancing neu gantor X-Factoraidd yn y Gymraeg?

Marchnad y ‘tweenagers’

Cwestiwn braidd yn rhyfedd efallai, ond wrth ystyried plant ysgol yn eu harddegau cynnar (tua’r oedran 11 i 14), ni allaf weld bod llawer o gerddoriaeth Gymraeg wedi ei greu i apelio atynt hwy.

Mae’n amhosib anwybyddu poblogrwydd bandiau megis One Direction, a meddwl am y bandiau a fu mor ddylanwadol arnaf i yn ddeuddeg, dair ar ddeg oed, a chwestiynu os ydy cerddoriaeth Gymraeg yn apelio at y gynulleidfa ifanc hon?


Mega ar eu gorau yn nathliad 10 mlwyddiant cylchgrawn Golwg ym 1998
Yn y 90au, roedd Mega’n ddigon parod i gamu i’r adwy, yn gyfoeswyr i fandiau megis Steps ac S Club, pan oedd pop yn ei anterth. Roeddent yn apelio at y farchnad ‘tweenagers’, ac roedd rhieni’n ddigon parod i’w plant ganu a dawnsio i’w cerddoriaeth.

Bu Macs-N hefyd ar daith ar hyd ysgolion yn hudo’r glaslancesau – roeddynt yn teithio ar hyd ysgolion Cymru ar y pryd, a chofiaf yn iawn nifer o ddisgyblion (ac athrawon!) yn ffansio Matt Johnsons. Ond ers hynny, does yr un grŵp pop o’r fath wedi dod i lenwi’r bwlch. (Efallai bod yna reswm da am hynny, a minnau’n sy’n bod braidd yn nostalgic!)

Ni allaf ddychmygu plentyn deuddeg oed yn dewis gwrando ar albwm werin 10 Mewn Bws, ac maent hefyd braidd yn ifanc i ddechrau ‘rêfio’ i gerddoriaeth Plyci neu R.Seiliog. Ydi bandiau fel Candelas a’r Ods, a hwythau’n drwm o angst ac angerdd, wir yn apelio at y gynulleidfa hon?

Bwlch angen ei lenwi

Mae yna fwlch mawr rhwng albymau Cyw a’u tebyg sy’n apelio at blant bach, bach, a cherddoriaeth sy’n cael ei farchnata tuag at ddisgyblion chweched dosbarth a myfyrwyr.

Ond beth am y rhai sydd ar drothwy eu harddegau ac yn mynd allan i brynu eu halbymau cyntaf? Nid oes yna lawer o fandiau sy’n apelio atynt hwy yn y Gymraeg – rydym yn colli cynulleidfa’r blynyddoedd hynny, ac mae’n jobyn anodd eu temtio’n ôl pan maent yn hŷn.

Mae’n gas gen i Harry Styles a’u tebyg, ac mi ddathlais pan benderfynodd JLS roi eu hesgidiau dawnsio yn y to a rhoi’r gorau iddi. Methu anwybyddu ydwyf, eu dylanwad ar y gynulleidfa ifanc, a gweld nad oes yna nifer o bobl ifanc yn gallu dweud mai albwm Gymraeg oedd yr albwm gyntaf a brynwyd ganddyn nhw.

Nid yn unig hynny, ond yn ymarferol, ni all plant 11 i 14 fynychu llawer o gigs Cymraeg a gweld cerddoriaeth fyw ar ei orau, am eu bod, fel rheol, yn cael eu cynnal mewn tafarndai.

Rwy’n ysu i rywun fy nghywiro, a dweud ‘mod i’n siarad trwy’n het – byddwn wrth fy modd yn clywed bod bandiau fel Y Bandana a Bromas yn apelio at y ‘tweenagers’ a’u tebyg. Efallai, a minnau (shock horror!) yn fy ugeiniau cynnar, nad oes gennyf glem am ddyheadau pobl ifanc … ond rywsut, ni allaf weld bod yr hyn sydd gennym i gynnig ar hyn o bryd yn ennyn diddordeb pobl ifanc 11 i 14 oed.

Gallwch ddarllen mwy gan Miriam ar ei blog, yn ogystal â’i dilyn hi ar Twitter ar @miriamelin23.