Bydd nofel newydd Euron Griffith yn cael ei chyhoeddi wythnos nesaf ac mae’r awdur ffraeth yn gaddo cyfuniad o’r lleddf a’r llon.

Mae Leni Tiwdor yn dilyn treialon ditectif preifat sy’n wynebu pob math o beryglon wrth iddo geisio datrys ei achos diweddaraf.

“Dwi’n meddwl ei bod hi’n deg dweud fod prif gymeriad y nofel, Leni Tiwdor, yn teimlo ar goll,” eglura Euron, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.

“O ganlyniad i ddolur calon, mae o’n symud i dref o’r enw Pontelfyn, ac yn penderfynu cychwyn gyrfa fel ditectif preifat. Yn ei feddwl o, does dim angen unrhyw gymwysterau arbennig ar gyfer y swydd, a’r cyfan sydd ei angen mewn gwirionedd yw desg a ffôn!”

Mae Euron yn gyflwynydd, cynhyrchydd ac ymchwilydd rhaglenni teledu a radio. Cyhoeddwyd cerddi ganddo yng nghylchgronau Ambit a Poetry Wales a bu ei waith celf yn rhan o arddangosfa yn y Walker Gallery yn Lerpwl.

Meddai Euron Griffith mai ‘adfer’ yw un o brif themâu Leni Tiwdor: “Mae’r syniad o adfer pethau yn bwysig iawn i mi, yn enwedig yn y dydd modern sydd ohoni,” esbonia.

“Dydw i ddim yn hoffi’r syniad o e-lyfrau, a does genna’i ddim iPod nac unrhyw fath o chwaraewr MP3, er enghraifft. Dwi’n hoff o’r syniad fod straeon rhwng cloriau llyfrau, a bod darn o gerddoriaeth o fewn cês albwm. Dwi’n ystyried llyfrau a recordiau fel ffrindiau oes.”

Dyma ail nofel Euron Griffith i oedolion, yn dilyn cyhoeddi Dyn Pob Un yn 2011, ac mae’n cyfaddef ei bod hi wedi bod yn her ar adegau.

“Yn union fel byddai rhyddhau ail albwm da yn sialens i unrhyw gerddor neu fand yn dilyn clod i’r albwm cyntaf, dwi’n teimlo fod y broses o ysgrifennu’r ail nofel yn fwy o her na’r nofel gyntaf, gan fod cymaint wedi dweud eu bod nhw wedi mwynhau Dyn Pob Un.”

Ond mae’r awdur o’r farn bod ’na wers i’w gael yn y nofel hefyd.

“I ryw raddau, dwi’n credu fod ditectif yn symbol ohonom ni i gyd. Swydd ditectif yw ceisio gwneud synnwyr o’r hyn sy’n cael ei gyflwyno iddo, yng nghanol holl annibendod a dirgelion bywyd. Ac rwy’n credu fod pawb yn chwilio am atebion.”

Bydd Leni Tiwdor yn cael ei lansio yng nghwmni Jon Gower a Richard Lynch nos Fercher, 27 Tachwedd am 7:00 yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd.