Doris Lessing (o wefan Wikipedia)
Bu farw’r awdur a’r enillydd gwobr lenyddiaeth Nobel, Doris Lessing yn ei chartref yn Llundain. Roedd hi’n 94 oed.
Cafodd ei geni yn Persia, Iran bellach, yn 1919 a thyfodd i fyny yn Ne Rhodesia fel yr oedd ar y pryd cyn cymud i Lundain ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Cafodd ei nofel gyntaf, The Grass is Singing, ei chyhoeddi yn 1950, ac ers hynny cyhoeddodd 54 o weithiau eraill gan gynnwys barddoniaeth, dwy opera, straeon byrion, dramâu a llyfrau ffeithiol.
Yn 2007, fe ddaeth hi’r person hynaf erioed i ennill Gwobr Nobel yn 88 oed.
“Roedd hi’n awdur rhyfeddol gyda meddwl diddorol a gwreiddiol; roedd yn fraint gweithio iddi ac fe fyddwn ni’n ei cholli hi’n fawr,” meddai Jonathan Clowes, ffrind ac asiant iddi am flynyddoedd maith.