Megan Lewis, enillydd y Gadair
Ceredigion oedd enilwyr Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru yn Ynys Môn, gyda’r Gadair hefyd yn mynd i ffederasiwn y sir.
Ond roedd cymeradwyaeth fwya’r diwrnod i’r ddeuwad ddoniol o Ddyffryn Cothi, Sir Gaerfyrddin, a greodd helynt anferth y llynedd gyda’u cân am le bwyta Chineaidd.
O dan yr enw Ping a Pong, fe gawson nhw’u cyhuddo o fod yn hiliol, gyda dadlau mawr o’r ddwy ochr yn y cyfryngau Cymraeg.
Eleni, roedd Endaf a Deian yn ôl gyda chân yn gwneud hwyl am y profiad ac roedd y dyrfa ym Mhafiliwn Mona ar faes Sioe Ynys Môn ar eu traed.
Yn union wedi’r cystadlu, fe ddywedodd Endaf Griffiths fod y gefnogaeth yn dangos bod mudiad y ffermwyr ifanc fel “un teulu mawr”.
Y Gadair a’r côr
Ynghynt, roedd Megan Lewis o glwb Trisang yng Ngheredigion wedi ennill y Gadair am stori fer am glirio aelwyd ar ôl marwolaeth perthynas.
Mae hi’n fyfyrwraig trydedd blwyddyn yn yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Enillwyr cystadleuaeth y côr oedd Meirionnydd.