Sioe Plant Mewn Angen
Fe wnaeth apêl Plant Mewn Angen y BBC godi dros £31m o bunnau neithiwr – £5m yn fwy na’r llynedd.

Mi fydd y swm yma yn sicr o godi wrth i’r holl arian sydd wedi gasglu ar hyd a lled Gwledydd Prydain ddod i law.

Dywedodd y cyflwynydd Sir Terry Wogan bod caredigrwydd y gwylwyr yn parhau i roi gobaith i’r bobl mwyaf bregus.