Paul Potts - un o gantorion y cyngerdd brys
Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd cyngerdd arbennig yn cael ei gynnal nos Sul i godi arian at Apêl y Philipinau.
Ac mae criw o gerddorion a threfnwyr yn y Gogledd wedi dod at ei gilydd i drefnu gig roc i godi arian at yr Apêl.
Ymysg y sêr sydd yng nghyngerdd S4C bydd Paul Potts, Bryn Fôn ac Elin Fflur, gyda’r noson yn cael ei harwain gan y digrifwr o Fôn, Tudur Owen
Bydd y cyngerdd yn cael ei gynnal ar faes Sioe Sir Fôn ar Ynys Môn, gan ddechrau am 6.30yh, ac yn cael ei ddarlledu ar y Sianel ar y noson – roedd camerâu S4C yn y safle eisoes ar gyfer Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc ddydd Sadwrn.
Mae amcangyfrifon fod miloedd wedi marw yn sgil teiffŵn Haiyan a darodd ynysoedd y Philipinau, gyda degau o filoedd yn fwy wedi’i gwneud yn ddigartref.
Cefnogaeth sydyn
“Mae’r golygfeydd o’r Philipinau ar y newyddion wedi dangos yn glir y trychineb enfawr sydd wedi taro’r wlad a’r dioddefaint enbyd yno yn sgil y teiffŵn,” meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C Dafydd Rhys.
“Dw i’n ddiolchgar iawn i gwmni Rondo am ymateb mor gyflym ac wrth gwrs i’r holl artistiaid sydd wedi ymrwymo i berfformio hyd yma ac eraill sydd wedi cynnig eu cefnogaeth.
“Dwi’n gobeithio y bydd y gyngerdd yn helpu i godi mwy o arian er mwyn lleihau dioddefaint pobl y Philipinau.”
Gig yn Rascals
Bydd gig i godi arian tuag at yr Apêl hefyd yn cael ei gynnal yn nhafarn Rascals, Bangor, ar 23 Tachwedd.
Mae rhai o’r enwau sydd wedi cadarnhau y byddan nhw’n perfformio ar y noson yn cynnwys Radio Rhydd, Gai Toms, Memory Clinic, Twmffat, Ceffylau Lliwgar, Bwgan, Heldinky, Dark Patrick ac Alex Morrison.
Dywedodd trefnydd y gig Dilwyn Llwyd, sydd hefyd yn drefnydd ar yr Ŵyl Gardd Goll, fod criw wedi dod at ei gilydd i geisio gwneud rhywbeth i helpu ar ôl gweld y newyddion erchyll.