Dylan Thomas
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi cystadleuaeth lenyddol ryngwladol i bobl ifanc i ddathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas yn 2014.

Bydd cystadleuaeth ‘Agorwch Ddrws Dychymyg’ ar agor i bobl ifanc rhwng saith a 25 mlwydd oed, mewn unrhyw arddull lenyddol, yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Mae disgwyl i geisiadau ddod o bob cwr o’r byd, nid yn unig o Gymru ond mae’n rhaid i’r gwaith fod wedi cael ei ysbrydoli gan y bardd adnabyddus o Abertawe.

Bydd beirniaid y ceisiadau Cymraeg yn cynnwys Anni Llŷn, cyflwynydd rhaglen Stwnsh ar S4C, enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd ac awdur y llyfr Nanw a Caradog Crafog Llwyd Lloerig.

Yn ymuno â hi fydd y gyflwynwraig a’r awdures Bethan Gwanas, a’r Prifardd Mererid Hopwood.

Mae beirniaid y ceisiadau Saesneg yn cynnwys y digrifwr Mark Watson, awdur y nofel Submarine Joe Dunthorne, yr awdur plant Elen Caldecott, ac wyres Dylan Thomas, Hannah Ellis.

Cyhoeddi

Bydd yr ymgeiswyr hefyd yn cael cyfle i weld eu gwaith yn cael ei gyhoeddi mewn cylchgrawn llenyddol a’i ddarlledu ar BBC Radio Cymru.

Bydd enillwyr y gystadleuaeth cael eu cyhoeddi yn seremoni Gwobr Dylan Thomas yn Abertawe ym mis Tachwedd 2014.

“Mae Llenyddiaeth Cymru yn credu’n gryf mewn annog plant a phobl ifainc i godi eu lleisiau a dweud eu straeon,” meddai Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn.

“Bydd Agorwch Ddrws Dychymyg yn helpu i ddatblygu creadigrwydd a magu hunanhyder plant a phobl ifanc, ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd i syrthio mewn cariad â Dylan Thomas.”

Am fwy o wybodaeth am y gystadleuaeth ewch i www.dylanwad100.com.