Van Morrison
Mae nifer o gynghorwyr Belfast wedi beirniadu’r gost o
£36,000 i dalu band Van Morrison i chwarae mewn cyngerdd nos yfory ble fydd y canwr yn cael ei wobrwyo â Rhyddfraint y ddinas.

Mae cwmni Van Morrison wedi amddiffyn y gost beth bynnag gan fod Van Morrison ei hun am berfformio am ddim ond bod Cyngor Dinas Belfast, sy’n trefnu’r cyngerdd, wedi llofnodi cytundeb i dalu’r band a’r criw.

Bydd Van Morrison yn canu o flaen cynulleidfa wâdd o dros 2,000 o bobl ac fe gafodd y tocynnau eu dyrannu’n rhad ac am ddim trwy raffl agored i drigolion Belfast .

Dywedodd Cwmni Van Morrison, Exile Productions, bod modd cyfiawnhau’r ffi.

Meddai llefarydd ar ran Exile Productions: “Y peth pwysicaf i Van yw ei fod yn gwneud y gig yn rhad ac am ddim a bod pobl Belfast yn gallu dod i’w weld yn rhad ac am ddim hefyd.

“Ond mae band a’r criw yn bobl sy’n gweithio ac yn haeddu cael eu talu am eu gwasanaethau fel unrhyw un arall.”

Mae’r digwyddiad eisoes wedi tanio dadl ffyrnig yn y ddinas ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod 500 o’r tocynnau wedi cael eu neilltuo ar gyfer pobl bwysig fel cynghorwyr.

Pleidleisiodd Cyngor Dinas Belfast dros roi ei anrhydedd uchaf i’r canwr ym mis Medi.

Van Morrison yw’r ail berson mewn 10 mlynedd i dderbyn Rhyddfraint Belffast.

Mae derbynwyr blaenorol yn cynnwys y Llynges Fasnachol, y bardd John Hewitt a Winston Churchill.