ap Golwg ar Android
Bydd yr app cylchgrawn cyntaf erioed, ap Golwg, ar gael ar ddyfeisiadau Android yn ogystal ag iOS o’r wythnos hon ymlaen.

Cafodd ap Golwg ei lansio’n wreiddiol ar ddyfeisiadau Apple yn Rhagfyr 2011.

Mae’r datblygiad newydd yn dod o ganlyniad i’r twf diweddar mewn poblogrwydd dyfeisiadau Android yn ol Cyfarwyddwr Datblygu y cwmni.

“Fel fersiwn digidol o gylchgrawn Golwg, mae’r profiad defnyddiwr gorau ap Golwg ar lechen” meddai Owain Schiavone, Cyfarwyddwr Datblygu Golwg.

“Wrth i ni ddatblygu’r app yn wreiddiol, dyfais iPad cwmni Apple oedd yn arwain y farchnad honno’n gyfforddus.”


“Mae’r farchnad llechi Android wedi tyfu’n gyflym iawn yn ddiweddar, a dros yr wythnosau diwethaf mae yna adroddiadau fod mwy o lechi Android yn gwerthu na sydd o rai iOS erbyn hyn.”

“Mae dyfeisiadau Android yn dipyn rhatach na rhai iOS a dwi’n disgwyl iddynt fod yn anrhegion Nadolig poblogaidd iawn eleni.”

“Gan ystyried hynny roedd yn bwysig i ni ymateb i’r farchnad a datblygu’r app ar gyfer Android, a gobeithio bydd hynny’n tyfu gwerthiant ap Golwg.”

Helpu cyhoeddiadau eraill

Cafodd Golwg gymorth gan Gyngor Llyfrau Cymru i ddatblygu’r cynllun gwreiddiol, a dros yr haf fe lansiodd y Cyngor yr Ap Llyfrau Cymru sy’n defnyddio’r un dechnoleg ag ap Golwg.

“Roedd datblygu ap Golwg fel yr app cylchgrawn Cymraeg cyntaf yn reit arloesol ar y pryd, ac mae hynny wedi helpu cyhoeddiadau Cymraeg eraill i ddatblygu ar y llwyfan yma.”

“Mae ap Golwg  yn cynnig mwy na dim ond fersiwn digidol o’r cylchgrawn print gyda chynnwys sain, fideo a lluniau ychwanegol ar yr app.”


ap wcw: rwdlan
“Rydym hefyd yn defnyddio ap Golwg i bontio rhwng cylchgrawn Golwg a gwasanaeth newyddion di-dor Golwg360” ychwanegodd Owain Schiavone.

Lansio ap Golwg ar Android ydy’r datblygiad digidol diweddaraf i Golwg, sydd hefyd wedi lansio app addysgiadol ‘ap wcw: rwdlan’ i blant bach dros yr haf.

Mae’r datblygiad diweddaraf yn dod ar ddiwedd blwyddyn gyffrous i’r cwmni sy’n dathlu chwarter canrif eleni.

Mae ap Golwg bellach ar gael ar Google Play, yn ogystal â’r App Store.