Y Ffug yn rhifyn Mehefin 2013 o gylchgrawn Y Selar
Yn y blog cerddoriaeth yr wythnos yma, Owain Schiavone sy’n mynd â ni ar daith i ymweld â’r clwstwr o fandiau ifanc Cymraeg sy’n gosod eu marc ar hyn o bryd…

Mae’n amhosib osgoi’r swp o fandiau ifanc Cymraeg addawol iawn sydd wedi ymddangos dros y flwyddyn i ddeunaw mis diwethaf.

Rydan ni wedi gweld cyfnodau euraidd tebyg yn y gorffennol, ond ar raddfa lai yn y fy marn i ac yn aml iawn wedi’i ganoli o gwmpas ardaloedd penodol diolch i ddylanwad unigolion neu grwpiau eraill.

O feddwl nôl dros y ddeng mlynedd diwethaf mae rhywun yn cofio Radio Luxemburg, Poppies a Kenavo yn ymddangos tua’r un pryd yn Aberystwyth.

Tua’r un pryd roedd Eryr, Bob a Di Pravinho a mwy yn dod i’r amlwg yn Llyn ac Eifionydd. Neu beth am Just Like Frank (Breichiau Hir bellach), Nos Sadwrn Bach, Byd Dydd Sul a The Zimmermans o’r De Ddwyrain i gyd yn ymddangos mewn un swp tua 2008.

Mae modd gweld cyfnodau eraill mewn ardaloedd penodol dros y degawdau wrth gwrs – Blaenau ar ddiwedd y 1990au, Crymych ar ddiwedd y 1980au, Bethesda ar ddechrau’r 1980au ac yn y blaen

Yr hyn sy’n drawiadol ar hyn o bryd ydy bod y grwpiau newydd cyffrous yma’n ymddangos ledled Cymru … neu ledled y Gorllewin o leiaf. Tybed ydy hynny’n adlewyrchu’r ffordd mae dulliau cyfathrebu a rhannu cerddoriaeth a syniadau wedi’i weddnewid diolch i’r chwyldro digidol?

Grwpiau Gwynedd

Felly pwy ydy’r bandiau newydd sy’n creu argraff ar draws y wlad?

Mae Gwynedd yn fan amlwg i ddechrau, ac mae dau grŵp o ardal Bangor wedi dal fy sylw, sef Eira ac Yr Ayes.

Mae Yr Eira wedi cael tipyn o sylw ar y radio, a chwpl o’u caneuon, ‘Cuddliw’ ac ‘Elin’ yn fwy diweddar, wedi cael eu chwarae tipyn – y ddwy yn be dwi’n hoffi’u galw’n #tiiiwn!

Mae ‘na rannu aelodau rhwng Yr Eira ac Yr Ayes, ond er fy mod i wedi sôn clywed am yr ail o’r rhain gyntaf dydyn nhw ddim wedi cydio gymaint ag Yr Eira mae dyn yn synhwyro – efallai bod eu sŵn yn fwy amrwd a llai ‘radio gyfeillgar’.

Wedi dweud hynny, mae ‘Dargludydd’ wedi ei chwarae tipyn ddiweddar ac yn gân wych.

Os deithiwn ni tua’r de fe ddown ni ar draws Y Reu yn Nyffryn Nantlle gyda’i sŵn bach mwy electroneg – gwrandewch ar ‘Symud Ymlaen’ i gael syniad.

Mae dylanwad llwyddiant un o grwpiau gorau’r ddwy flynedd diwethaf, Candelas, i’w weld yn glir ym Meirionydd ac ar Y Cledrau yn benodol.

Yr hen Ddyfed

Prin fod unrhyw gigs yn Aberystwyth y dyddiau yma sydd ddim yn rhoi llwyfan i Mellt, sydd wrthi ers rhyw dair blynedd bellach ond â’r aelodau dal ond yn tua 16 oed maen nhw wir wedi aeddfedu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Lawr yng Nghaerfyrddin mae Tymbal yn grŵp sydd â sŵn bach diddorol, tra bod Bromas, a gipiodd deitl ‘Band Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar eleni, erbyn hyn yn hen bennau.

Draw yn Sir Benfro mae enillwyr Brwydr y Bandiau C2 eleni’n trigo. Mae cerddoriaeth roc Y Ffug bach yn drymach na’r rhai sydd wedi’u henwi hyd yn hyn, ond mae steil unigryw Crymych i’w glywed yn glir.

A sôn am roc, mae Castro o Landeilo yn weithgar ac yn gwneud marc. Mae’r sŵn yn reit amrwd ar hyn o bryd, ond maen nhw’n wahanol ac yn rhestru Y Cyrff ymysg eu dylanwadau felly mae gobaith!

Brwydro

Gwaetha’r modd mae enillwyr Brwydr y Bandiau C2 2012, Nebula, wedi diflannu ond mae grŵp ifanc diddorol arall o Abertawe’n llenwi eu hesgidiau sef Fast Fuse.

Dwi heb weld rhyw lawer o Siân Miriam a gipiodd deitl Brwydr y Bandiau C2 y flwyddyn flaenorol chwaith, felly mae cwestiwn yn codi ynglŷn â gwerth ennill y gystadleuaeth yma.

Wedi dweud hynny, mae nifer o’r rhestr uchod wedi cymryd rhan yng nghystadleuaeth C2 felly mae’n ymddangos ei fod yn rhoi nod i fandiau newydd o leiaf.

Dim ond bandiau dwi wedi’i rhestru fan hyn cofiwch – mae llu o artistiaid unigol addawol iawn ellid eu hychwanegu at y rhestr.

Y cwestiwn ydy, lle nesaf i’r artistiaid yma? Does dim gobaith gan bob un o’r rhain i ennill cytundeb recordio efo label Cymraeg, un neu ddau os ydyn nhw’n lwcus yn unig.

Maen nhw’n ifanc felly go brin fod arian yn y banc i dalu am recordio a rhyddhau’n annibynnol. A gyda gigs yn brin, ac arian trefnwyr yn brinnach does dim llawer o sgôp i godi arian trwy gigio chwaith.

Wedi dweud hynny, mae’r rhan fwyaf wedi recordio eu cerddoriaeth mewn rhyw ffurf i’w ledaenu’n unigol o leiaf felly mae’r caneuon allan yna. Y cwestiwn ydy, oes ‘na fodel ellir ei ddatblygu o hynny, a chymorth wrth law i ryddhau eu cerddoriaeth yn swyddogol a chyrraedd cynulleidfa ehangach?

Mae Y Niwl ar hyn o bryd yn defnyddio system Pledge Music i godi arian ar gyfer rhyddhau eu halbwm nesaf – system sy’n galluogi pobl i ‘addo’ prynu cerddoriaeth cyn ei recordio.

Tybed ydy hwn yn fodel posib ar gyfer rhai o’n hartistiaid ifanc cyffrous hefyd?