Samira Mohamed Ali a Mercy Gaiger yn Molly Crows
Bydd y ffilm arswyd Brydeinig ‘Molly Crows’ yn cael ei dangos yng Nghymru am y tro cyntaf erioed ddydd Llun nesaf – gyda stamp cymeradwyaeth yr actor Michael Sheen arni.

Seren y ffilm, a enillodd wobr yn Llundain yn ddiweddar, yw’r actores Gymreig Samira Mohamed Ali, sy’n wreiddiol o Gastell-nedd.

Ac fe fydd elw’r noson fawr yn mynd at achos da, gyda’r holl arian a godir yn mynd i gronfa Ambiwlans Awyr Cymru drwy Apêl Cerddwn Ymlaen, ac ar gyfer yr elusen Better Life Appeal.

Mae’r perfformiad – gyda 240 o westeion wedi’u gwahodd – yn cael ei gynnal yn Sinema REEL, Port Talbot, ble y dangoswyd y ffilm ‘Passion’ Michael Sheen am y tro cyntaf yn 2012, ac mae’r seren Hollywood eisoes wedi dymuno’n dda i’r cast.

“Pob lwc i Samira a phawb arall sydd a wnelo â pherfformiad cyntaf ‘Molly Crows’,” meddai Sheen.

“Gobeithio y bydd ‘Ambiwlans Awyr Cymru’ ac Apêl Gwell Bywyd’ yn elwa o’r noson fawr.”


“Perfformiad rhyfeddol”

Dyma fydd prif ran gyntaf Samira yn y DU, ac fe fydd hi’n actio gyda’r enwog George Newton o ‘Dead Man’s Shoes’ a ‘This is England’ a enwebwyd am BAFTA yn ddiweddar.

Disgrifiodd y cyfarwyddwr Ray Wilkes berfformiad Samira fel “un rhyfeddol, a’r actores yn dod â dyfnder a thynerwch i’r perfformiad na wyddwn ei fod yn bodoli”.

Yn ogystal â Samira mae yna Gymraes ifanc arall yn serennu yn y ffilm hefyd, gyda’r actores 8 oed Mercy Gaiger yn chwarae rhan ei merch hefyd.

Ysbryd gwrach

Mae’r ffilm yn seiliedig ar stori go iawn ddigwyddodd yn ystod wythnos Calan Gaeaf  yn y ddeunawfed Ganrif, mewn mynwent fechan ger Stoke-on-Trent ble mae bedd gwrach leol o’r enw Molly Leigh.

Yn ôl coel gwlad, bydd ysbryd drwg y wrach flin yn codi o’r hen fedd ar Noson Calan Gaeaf i redeg ar ôl y rhai a allai fod wedi achosi ei marwolaeth.

Ac yn ôl y sôn hyd heddiw, mae plant lleol yn credu os gwnân nhw ddawnsio o gwmpas y bedd ar Noson Calan Gaeaf a chanu ‘Molly Leigh, you can’t catch me, dancing round the apple tree’, bydd yr hen wrach flin yn codi o’i bedd, a’u herlid nhw o gwmpas y fynwent.

“Mae’n ffilm ‘indie’, celfyddydol iawn,” meddai Samira. “Roedd Ray Wilkes yn wych i weithio efo.”

“Mae’r ferch fach, fy merch i yn y ffilm, yn cael ei meddiannu gan ddewiniaeth, ac mae’n teulu ni’n symud i Stoke heb nabod unrhyw un yno – mae pawb yn meddwl ein bod ni’n deulu od tu hwnt.”

“Mae’n wych gweld y canlyniad terfynol ar y sgrin.”


amira Mohamed Ali, John Healey a Miles Rodziewicz - Enillwyr yng Ngŵyl Ffilmiau Portobello
Samira’n serennu

Yn ogystal â’i rhan yn ‘Molly Crows’, bydd Samira hefyd â phrif ran yn y ffilm ‘Dr Who’ a gynhyrchir yn Hollywood eleni i ddathlu hanner canfed pen-blwydd y gyfres boblogaidd, ac yn ymddangos mewn dwy ffilm Bollywood yn 2014.

Daeth perfformiad cyntaf ‘Molly Crows’ i’r brig yng Ngŵyl Ffilmiau Portobello yn Notting Hill ym mis Medi, ac enillodd y Tlws am y Ffilm Orau allan o 700 o ymgeiswyr ar draws Ewrop.

Magwyd Samira yn Dubai cyn symud i fyw yng Nghastell-nedd yn ei harddegau, ac mae wedi gweithio fel model yn y gorffennol gan ennill tlysau sy’n cynnwys Miss Ewrop a dod yn 10 uchaf cystadleuaeth Model y Byd yn 2012.