Cerys Matthews
Wrth i Gaerdydd baratoi i groesawu cerddorion ledled y byd dros y dyddiau nesaf, mae un o’n cerddorion enwocaf wedi dweud bod angen i Gymru wneud mwy i hyrwyddo ei cherddoriaeth y tu hwnt i’r ffin.

Roedd Cerys Matthews yn siarad ar y Post Cyntaf ar Radio Cymru’r bore ‘ma pan ddywedodd bod cynnal Gŵyl WOMEX yng Nghaerdydd yn ffordd berffaith i rannu ein cerddoriaeth a’n traddodiadau gyda gweddill y byd.

WOMEX yw’r  ŵyl gerddoriaeth byd mwyaf o’i math a dyma’r tro cyntaf iddi gael ei chynnal yng Nghymru.

Rhwng heddiw a 27 Hydref bydd y brifddinas yn llwyfannu 60 o gyngherddau gyda thros 300 o artistiaid. Bydd cynhadledd cerddoriaeth byd hefyd yn cael ei chynnal gydag arddangosfeydd gan 650 o gwmnïau o dros 90 o wledydd gwahanol.

Heno bydd Cyngerdd Agoriadol Gŵyl WOMEX 2013 yn cael ei llwyfannu yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd. Cyfarwyddwr artistig cyngerdd Gwlad y Gân yw’r gantores Cerys Matthews a ddywedodd y byddai’n mynd a’r gynulleidfa “ar grwydr trwy 30,000 o flynyddoedd o hanes Cymru.”

Bydd y cerddorion Cymraeg sy’n cymryd rhan yn y gyngerdd yn cynnwys  Cass Meurig, Gwenan Gibbard, D n A, Georgia Ruth, Siân James a Twm Morys.

Bydd Gwlad y Gân yn cael ei darlledu ar S4C nos yfory ac mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau sy’n rhan o WOMEX yn ogystal â thocynnau i’r cyngherddau ar gael eu gwefan: womex.com