Golygydd cylchgrawn Y Selar, Gwilym Dwyfor, fu’n gwrando ar EP cyntaf Aled Rheon i’w adolygu yn rhifyn diweddaraf y cylchgrawn.

Efallai mai Sêr yn Disgyn yw EP cyntaf Aled Rheon ond does dim ond angen edrych ar restr y cyfranwyr ar y chwe chân i sylweddoli fod yma foi sy’n gwybod beth mae’n ei wneud. Gareth Bonello, Osian Gwynedd, Dan ‘Fflos’ Lawrance … oes angen dweud mwy?

Caneuon acwstig sydd yma, caneuon serch yn bennaf, ac mae dylanwad Bonello yn amlwg iawn ar yr alawon a’r llais hiraethus pruddglwyfus. Peth da yw hynny wrth gwrs achos os ydych chi am gael eich dylanwadu gan unrhyw un ar gyfer y math yma o gerddoriaeth, pwy gewch chi well?

Fe wnaiff y casgliad hwn hawlio eich holl sylw o far cyntaf yr hyfryd ‘Tawel Fel y Bedd’ hyd at nodyn olaf y soddgrwth ar y ddeuawd hudolus gyda Greta Isaac, ‘Wy ar Lwy’. Mae’r pumed trac, ‘Muriau (Cama Lawr)’ yn cynnig rhywbeth ychydig bach yn wahanol – sŵn llawnach a thempo ychydig cyflymach. Gall trac fel hwn yn hawdd fod wedi amharu ar daclusrwydd y casgliad ond mae’n llwyddo i aros yn driw i naws y cyfanwaith tra’n cynnig ychydig o amrywiaeth yr un pryd.

Fe fydd Aled Rheon yn newydd i rai, yn ymddangos o unman fel pêl droediwr yn sgorio hatric yn ei gêm gyntaf. Ond mae hwn wedi bod yn gweithio’n galed ar y cae ymarfer ers tipyn, ac mae hynny’n dangos.

8/10

Adolygiad o rifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar. Darllenwch fwy o adolygiadau, cyfweliadau ac erthyglau cerddoriaeth eraill yn y fersiwn ar-lein.