Ciron Gruffydd fu’n adolygu albwm ddwbl Gai Toms ar gyfer rhifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar.
O riffs ska Anweledig i naws gwerinol Mim Twm Llai ac o albwm werdd gysyniadol at y gân “fformiwla” enillodd Cân i Gymru 2012 – mae Gai Toms yn gerddor sydd ddim ofn mentro.
Ac mae’r un yn wir am yr albwm newydd. Mae Gai Toms wedi buddsoddi mewn festri hen gapel yn ardal Ffestiniog er mwyn ei throi yn stiwdio recordio. Ond cyn iddo ddechrau ar y gwaith, mae wedi mynd ati i greu albwm ddwbl sy’n pontio gorffennol yr adeilad a’r dyfodol newydd.
Ac o’r gân gyntaf ar y CD gyntaf, Bethel Hen, sy’n ddeuawd gyda Dr Meredydd Evans oedd yn arfer mynd i ysgol Sul yn y capel, mae Gai Toms yn llwyddo i arwain y gwrandawr ar daith.
Mae caneuon fel ‘Y Bonws’ yn ddathliad o’r diwydiant llechi tra bod geiriau Dewi Prysor yn ‘Ar y Moelwyn’ yn paentio llun o’r tirlun mynyddig sy’n amgylchynu tref Blaenau Ffestiniog. Y cyfan i gyfeiliant syml gitar a llais, sy’n teimlo’n weddus fel cerbyd i gofio gorffennol symlach.
Mae’r ail CD, Bethel Newydd, ar y llaw arall, yn gynhyrchiad llawn gyda’r band sy’n arddangos dawn Gai fel cerddor sy’n gyfforddus gydag amrywiaeth o steiliau cerddorol – o roc a rôl ‘Anti Paganda’ i dyb ‘Llyn Tekapo’ i sŵn disgo ‘Glaw yr Haf’.
Ond er yr amrywiaeth, i mi mae’r albwm yn gweithio fel cyfanwaith – mae’n rhoi’r teimlad eich bod chi’n cael cipolwg i fyd arall , byd Gai Toms, sy’n gweithio’n rhyfeddol o dda.
Tydi’r albwm ddim yn berffaith ac mae rhai caneuon yn torri ar lif y peth yn fy marn i. Ac rwy’n credu y bydd rhai o ddilynwyr Gai Toms yn ffafrio un CD dros y llall.
Ond mae hi’n record sy’n eich tynnu i mewn ar bob gwrandawiad nes eich bod chithau hefyd yn teimlo’n rhan o’r ardal, y gymdeithas a chapel Bethel.
8/10
Adolygiad o rifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar. Darllenwch fwy o adolygiadau, cyfweliadau ac erthyglau cerddoriaeth eraill yn y fersiwn ar-lein.