Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer Gwobrau Tir na n-Og 2013.
Sefydlwyd Gwobrau Tir na n-Og yn 1976 gyda’r bwriad o godi safon llyfrau i blant a phobl ifanc yng Nghymru ac i annog pobl i brynu a darllen llyfrau.
Cyflwynir tair gwobr yn flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru i anrhydeddu gwaith awduron a darlunwyr llyfrau plant, a hynny mewn tri chategori, sef categori cynradd Cymraeg, categori uwchradd Cymraeg a llyfr Saesneg gorau’r flwyddyn
“Mae’n braf iawn medru llongyfarch ein hawduron, darlunwyr a chyhoeddwyr ar safon ac amrywiaeth y llyfrau sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer plant a phobl ifanc yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac roeddem yn hynod falch o gael ystod mor deilwng ar y rhestr fer,” meddai Elwyn Jones, Prif Weithredwr, Cyngor Llyfrau Cymru.
“Gobeithiwn y bydd y llyfrau yma yn dod â phleser mawr i blant, pobl ifanc ac oedolion ar draws Cymru gyfan.”
Bydd enwau enillwyr y gwobrau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Benfro, dydd Iau, 30 Mai 2013, ac enw enillydd y wobr Saesneg yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad arbennig yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd yn ystod cynhadledd CILIP Cymru, dydd Iau, 16 Mai 2013.
Categori Cynradd Cymraeg
Coed Du (Cyfres Strach) – Gwenno Hughes (Gomer)
Cynefin yr Ardd – Bethan Wyn Jones ac Iolo Williams (Gwasg Carreg Gwalch)
Gelert yn Galw (Cyfres Swigod) – Helen Emanuel Davies (Gomer)
Categori Uwchradd Cymraeg
Dim (Cyfres y Dderwen) – Dafydd Chilton (Y Lolfa)
Y Gêmau Olympaidd a Champau’r Cymry – Alun Wyn Bevan (Gomer)
Pentre Saith (Cyfres y Dderwen) – Ceri Elen (Y Lolfa)
Llyfr Saesneg Gorau’r Flwyddyn
Friends at War – Alan Lambert (Pont)
The Gardening Pirates – Ruth Morgan a Chris Glynn (Pont)
Tree of Leaf and Flame – Daniel Morden gyda darluniau Brett Breckon (Pont)