Yr Arglwydd Leveson
Dyma Esyllt Sears, Cyfarwyddwr Cyfathrebu cwmni 52-4 Cyf, i drafod effaith bosib adroddiad yr Arglwydd Leveson…

Rydym yn byw mewn gwlad lle mae rhyddid a gwrthrychedd y wasg wedi ei gymryd yn ganiataol ers canrifoedd. Ond nawr, wrth i ni gael ein gorfodi i ystyried moesau ac arfer da y wasg honno, mae’n anochel ein bod yn cwestiynu natur ac ansawdd yr wybodaeth rydym yn ei dderbyn yn dydddiol. Mae adroddiad Leveson ar ddiwylliant, arferion a moesau’r wasg, beth bynnag yw eich ymateb cyntaf tuag at ei gasgliadau, yn garreg filltir bwysig yn hanes y wasg ac, o bosibl, yn hanes ein cymdeithas ddemocrataidd hefyd.

O’r darlleniad cyntaf, rwyf o leiaf yn falch o weld fod yr adroddiad yn tanlinellu pwysigrwydd diogelu rhyddid y wasg. Yn sicr rwyf am fyw mewn cymdeithas lle mae gennym wasg rydd, ac rwyf am gael gwybodaeth sydd wedi cael ei ddarganfod mewn modd teg, sydd wedi cael ei ysgrifennu yn wrthrychol, a heb fod wedi cael ei dalu amdano gan unigolion na sefydliadau. Efallai eich bod yn meddwl bod hyn yn rhywbeth rhyfedd i aelod o’r diwydiant cysylltiadau cyhoeddus ei ddweud, yn enwedig gan bod fy ngwaith bob dydd yn ymwneud â gwthio agendâu penodol. Ond pan rwyf yn anfon straeon at gyhoeddiadau penodol, rwyf yn gwerthfawrogi’n fawr pan fo newyddiadurwyr yn cwestiynu yn adeiladol fy nehongliad i neu yn awgrymu onglau a safbwyntiau ychwanegol.

Y cyhoedd wedi colli ffydd

Rwyf am weld y wasg yn cyhoeddi straeon arloesol, ymchwilio i achosion o anghyfiawnder, datgelu’r gwirionedd a chyflwyno byd a fyddai fel arall yn anghyfarwydd i mi; ond yn sicr nid ar draul achosi gofid a phoen i bobl ddiniwed.

Mae’n ddiddorol nodi yn y fan hon fod arolwg a gyhoeddwyd ym mis Medi 2012 gan Which? yn dangos mai gwleidyddion a newyddiadurwyr yw’r proffesiynau a ymddirir ynddynt leiaf (7%), a hynny o flaen bancwyr a gwerthwyr tai (11%).

Mae gan y wasg gryn dipyn o waith i’w wneud os yw am ennill ymddiriedaeth y cyhoedd unwaith eto. Rwy’n cytuno nad yw darllenwyr o reidrwydd angen papurau newydd i lunio ein safbwyntiau drostom ni, ond ar yr un pryd maent yn cyflwyno gwybodaeth hanfodol sy’n ein galluogi i gymryd rhan weithrdeol yn y gymdeithas sydd ohoni. Mae dyfodiad papurau ar-lein a rhwydweithiau cymdeithasol wedi newid y ffordd mae miliynau o bobl bellach yn cyfranu i’r gymdeithas ac i’r agenda newyddion.

Sut mae rheoleiddio’r We?

Mae’n anochel nawr y bydd rhyw ffurf o reoleiddio yn cael ei gyflwyno, ond bydd rhaid aros tan i’r dadlau gwleidyddol ddistewi cyn gweld ar ba ffurf y bydd hyn. Ymddengys mai rheoleiddio annibynnol yw’r opsiwn mwyaf poblogaidd; mae’r ymateb diweddar i etholiadau’r Comisiynydd Heddlu yn dangos sut y gall ceisio cyflwyno elfen wleidyddol i rai agweddau ar fywyd cyhoeddus achosi aniddigrwydd mawr ymysg etholwyr. Wrth ddarllen pytiau di-ri o newyddion, darnau golygyddol a sylwadau y rhwydweithiau cymdeithasol, mae cymysgedd o feirniadaeth a chefnogaeth tuag at Adroddiad Leveson. Ond beth fydd o ddiddordeb i mi yn ystod y flwyddyn i ddod yw sut y bydd y casgliadau hyn yn helpu ffurfio moesau defnyddwyr y rhwydweithiau cymdeithasol. Er nad oes unrhyw ganllawiau pendant yn adroddiad Levesnon ynghylch y mater hwn (wedi’r cyfan adroddiad ar y wasg brintiedig oedd hwn), mae e yn cyfeirio at gyfraniad rhwydweithiau cymdeithasol mewn straeon ac achosion cyfreithiol diweddar. Erbyn hyn, gellir hawlio nad oes modd cael y naill gyfrwng heb y llall.

Mae’n annhebygol y bydd unrhywun wedi dilyn yr ymchwiliad dros y flwyddyn ddiwethaf heb sylweddoli fod rhaid i rywbeth newid. Efallai y bydd yn rhaid cael sylfaen gyfreithiol, ond yr hyn rwyf yn sicr ohono yw na ddylai unrhyw fath o reoleiddio ar y wasg amharu ar wir waith newyddiadurwyr o ymchwilio i straeon sy’n effeithio arnom ni oll fel aelodau o gymdeithas, ac sy’n ein galluogi i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas ddemocrataidd.