Bu i’r nifer yn prynu llyfrau Cymraeg gynyddu rhyw fymryn yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, yn ôl y Cyngor Llyfrau.
Medden nhw mewn datganiad: ‘Er bod y diwydiant yng nghanol cyfnod economaidd anodd, adroddwyd yn y Cyfarfod Blynyddol fod gwerthiant llyfrau print drwy Ganolfan Ddosbarthu’r Cyngor wedi gweld cynnydd o 1% yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf – ffigur sy’n brawf pellach o safon ac apêl y llyfrau, ac o ymrwymiad y diwydiant i gydweithio er lles y darllenwyr.’
Hefyd maen nhw’n dweud fod 75 o e-lyfrau Cymraeg ar gael i’w prynu ar y We.