Mae corff sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i helpu’r diwydiant cerddoriaeth wedi penodi Guto Brychan a chyn-reolwraig Coldplay i’w Fwrdd Rheoli.

Eisoes yn trefnu Maes B a rhedeg sawl label recordiau i gwmni Sain, mae Guto Brychan yn un o hen stejars y Sîn Roc Gymraeg. Fo oedd Swydd Iaith Gymraeg cyflogedig cyntaf un y Sefydliad Cerddoriaeth Gymraeg (SCG).

“Y nod yw cynorthwyo â datblygiad isadeiledd y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru,” meddai Brychan, “a meithrin gwell dealltwriaeth  o sector cerddoriaeth y wlad, a chreu cysylltiadau newydd gydag unigolion eraill yn y diwydiant er budd yr holl rai sy’n gysylltiedig ag ef.”

Aelodau eraill

Hefyd yn ymuno â’r Bwrdd Rheoli mae Estelle Wilkinson, cyn-reolwr y cewri Coldplay, a Steve Balsamo wnaeth gyd-sgwennu’r diti enillodd Cân i Gymru y llynedd.

Eisoes ar Fwrdd SCG mae Dafydd Roberts Prif Weithredwr Sain, Rhys Mwyn, Bryn Fôn a Neil Cocker.