Cadno - y cymeriad a feirniadodd y Llywodraeth (Llun cyhoeddusrwydd y BBC)
Fe gafodd pennod o Pobol y Cwm ei hailddarlledu neithiwr S4C, er gwaetha’ gwrthwynebiad Llywodraeth Cymru.
Roedden nhw wedi cyhuddo’r rhaglen o fethu â bod yn ddiduedd tros y ddadl am ddifa moch daear, gan gyhuddo’r opera sebon o fod yn erbyn polisi brechu’r Llywodraeth.
Roedden y Llywodraeth wedi galw ar S4C i beidio ag ailddarlledu’r bennod ac i’w thynnu oddi ar y gwasanaeth gweld-eto, Clic.
Dyw hi ddim yn glir eto a fyddan nhw’n awr yn cwyno wrth y rheoleiddwyr Ofcom ac Ymddiriedolaeth y BBC, gan mai’r Gorfforaeth sy’n cynhyrchu’r rhaglen.
Condemio’r Llywodraeth
Roedd y Llywodraeth yn eu tro wedi cael eu condemnio’n hallt gan yr holl wrthbleidiau:
- “ Chwerthinllyd” oedd gair llefarydd y Ceidwadwyr, Antoinette Sandbach.
- Doedd gan y Llywodraeth ddim parch at ryddid barn, meddai Peter Black o’r Democratiaid Rhyddfrydol.
- Annog S4C i fod yn gadarn a wnaeth Elin Jones o Blaid Cymru, a oedd wedi ceisio gweithredu cynllun i ddifa moch daear pan oedd yn Weinidog Amaeth.