Asia Rybelska fu’n darllen cyfrol ddiweddaraf yr awdur toreithiog Gareth F. Williams.
Mae Gareth F. Williams yn ceisio deall meddwl sawl cenhedlaeth a phontio bwlch rhyngddyn nhw wrth wneud iddyn nhw ddatrys nifer o broblemau yn ei nofel ddiweddaraf, ‘Y Tŷ Ger y Traeth’.
Yn sicr, mae pob un ohonom ni’n gyfarwydd â’r pwnc o drafferthion teuluol ac yn gwybod sut gall aelodau teulu golli cysylltiad â’i gilydd am nifer o flynyddoedd. Weithiau dyna ni, atalnod llawn a dim byd arall. Ond weithiau gall rhyw ddigwyddiad dramatig roi persbectif newydd i’w bywydau, ac mae teimladau coll yn dod yn ôl. Pa opsiwn a gynigir gan yr awdur yma?
Mae Sara Dafydd, prif gymeriad y nofel, yn ferch ddwy ar bymtheg oed sy’n byw gyda’i rhieni yng Nghaerdydd. O’r dechrau un, gellir adnabod ei safbwynt ynglŷn â’r byd o’i chwmpas, ac nid darlun delfrydol ydy o.
Mae Sara ar goll â’i bywyd, mae’n teimlo fel dieithryn i’w theulu ei hun ac i bobl eraill. Yn ei meddwl hi, sombis sy’n derbyn pethau fel y maen nhw. Gan nad ydy Sara eisiau bod fel hyn, mae’n rhaid iddi gadw ei hannibyniaeth. Ac yn ei barn hi, y ffordd orau i wneud hynny ydy trwy boen corfforol…ac mae Sara’n niweidio ei hun, heb ddweud yr un gair wrth ei rhieni.
Mae yna rywun arall yn ei theulu sy’n llathen o’r un brethyn: ei thaid, Harri. Ond ffigwr dan len o ddirgelwch ydy hwn. Mae’n persona non grata yn nheulu Sara, a dechreuodd popeth ar ôl i’w nain farw. “Mae o’n ddyn ofnadwy”, meddai mam Sara. Ac mae hynny’n iawn i Sara, gan ei bod yn credu ei bod hithau’n ofnadwy hefyd. Ond mae’n rhaid iddi ddarganfod beth sydd wir wedi digwydd deuddeng mlynedd yn ôl, felly mae hi’n penderfynu mynd i’r gogledd, i ymweld ag ef, heb sôn wrth ei rhieni eto. Ac, fel gellir dyfalu, dyna ‘r penderfyniad sy’n dechrau cyfres o ddigwyddiadau o’r pwys mwyaf i’r teulu hollt, a chaiff y dirgelwch mawr ei ddatgelu’n raddol, ond nid heb gymhlethdodau.
Amrywiaeth arddull
O’r cychwyn cyntaf, adroddir y stori o safbwynt nifer o gymeriadau’r nofel. Heblaw Sara, gellir darllen meddyliau aelodau ei theulu, a hefyd ffrindiau ei thaid. Maen nhw i gyd yn gweld a deall pethau mewn ffordd wahanol, ac maen nhw’n defnyddio iaith wahanol (yn llythrennol ac yn ffigurol). Credaf fod hynny’n syniad da, gan y byddai’n rhoi digon o amrywiaeth i arddull y llyfr.
Yr hyn sy’n ddiddorol yn y nofel hon, ydy’r ffaith fod yr awdur yn adlewyrchu gwahaniaethau yn ynganiadau o’r Gogledd a’r De Cymru wrth ysgrifennu. Yn gyffredinol, mae Gareth F. Williams yn ddigon clir wrth wneud hynny, ond weithiau mae’n tueddu ymyrryd â llif o adroddiad fel yr awdur, a hefyd weithiau mae’n cofnodi meddyliau mwy nag un person ar yr un pryd, sy’n gallu gwneud dyfalu pwy sy’n siarad yn sialens!
Yn gyffredinol, mae’r cymeriadau’n cael eu datblygu yn weddol dda, ac maen nhw’n ymddangos yn realistig. Ond ar yr un pryd, dwi’n teimlo rhyw ffugioldeb yn y nofel weithiau, sy’n ymddangos fel petai wedi cael ei ‘sensro’ gan yr awdur ei hun. Efallai bod awduron yn ogystal â darllenwyr Cymreig yn rhy gyfeillgar a thyner i drin pethau eithafol?
Hefyd, er ei fod yn dda at bortreadu agwedd dywyll personoliaeth, a dangos gwrthdaro rhwng pobl , mae’n gwneud hynny mewn ffordd lyfn, yn fy marn i, heb gyrraedd eithafion.
Roedd gen i hefyd broblem deall ei syniad am y drefn ‘achos ac effaith’. Weithiau roedd ymatebion y cymeriadau wedi’u gorliwio, ac weithiau doedd yna’r un ymateb yn lle, dwi’n credu, y dylai ymateb fod.
Ac yn olaf, nid ydy’r awdur wedi defnyddio holl botensial ei lyfr. Wrth imi ddarllen, darganfyddais sawl motiff diddorol iawn yr hoffwn weld eu datblygu, ond yn y diwedd methodd yr awdur a gwneud hynny, oedd yn siom i mi.
Rhaid imi ddweud mai nofel â phlot cyffrous, ac arddull dda ydy hon. Er imi ddod o hyd i sawl gwendid, doedden nhw ddim yn ddigon amlwg i sbwylio fy mhleser wrth ddarllen. Felly, galla i argymell y gyfrol i ddarllenwyr o bob dosbarth ac oedran. Efallai’n wir y gallai hon roi cymorth i rai sy’n mynd trwy gyfnod caled yn eu bywydau?
Mae Asia Rybelska yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Poznan yng Ngwlad Pwyl sy’n treulio’r haf ar leoliad gyda chwmni Golwg.