Mae’r BBC wedi cadarnhau eu bod am ddarlledu gemau Pêl-droed Americanaidd ar gyfer y tymor 2012.

Fe fydd y darlledu yn cychwyn ar 10 Medi gyda’r Cincinnati Bengals yn chwarae yn erbyn y Baltimore Ravens, a’r San Diego Chargers yn herio’r Oakland raiders.

Bydd y gemau yn fyw ar y botwm coch ar y teledu gan y BBC  yn ogystal ar  wefan  chwaraeon y BBC, tra bydd o leiaf un sylwebaeth yr wythnos ar Radio 5.

‘‘Rydym yn edrych ymlaen at ddarlledu’r fath gamp.  Yn ystod yr haf, fe fuodd llawer yn gwylio pob math o chwaraeon ar-lein ac yn gwasgu’r botwm coch i weld yr opsiynau oedd ar gael,’’ meddai Barbara Slater, cyfarwyddwraig chwaraeon y BBC.

‘‘Rydym wrth ein boddau bod ein partneriaeth gyda’r cynghrair bêl-droed Americanaidd cenedlaethol yn parhau i dyfu ac rydym yn edrych ymlaen at dymor gwych,’’ ychwanegodd.