Bae Caerdydd
Mae’n athrawes wrth ei gwaith bob dydd, ond gyda’r nosau a’r penwythnosau, mae Mair Eleri Davies yn paentio canfasau.

“Dw i’n defnyddio lliwiau llachar er mwyn dal y llygaid gan eu bod yn creu awyrgylch bywiog o fewn fy ngwaith,” meddai’r ferch sy’n wreiddiol o Lwyncelyn ger Aberaeron.

“Dw i’n defnyddio dyfrlliwiau yn bennaf ac yna’n gosod haenen o basteli sialc ar ei ben er mwyn creu gwead ychwanegol.

I ddechrau, roedd hi’n defnyddio calonnau a sêr yn ei gwaith, ac mae hyn yn rhywbeth y mae wedi trosglwyddo i’w gwaith diweddaraf hefyd.

“Erbyn hyn yr wyf yn peintio tirluniau sy’n agos at fy nghalon,” meddai wrth Golwg 360.

“Cefais fy magu ar lan y môr ym Mae Ceredigion, felly rwy’n creu canfasau o ardaloedd yr ydw i wedi treulio llawer o amser ynddyn nhw, fel Aberaeron, Cei Newydd ac hefyd ardaloedd mwy prysur fel Marina Abertawe a Bae Caerdydd.”

Mae bellach wedi symud o Geredigion i Bontardawe, â hithau’n athrawes mewn ysgol gynradd ym Mhontardawe.

“Weithiau mae bywyd yn gallu mynd yn brysur iawn rhwng y dysgu a’r paentio, ond mae’n bosib dod o hyd i amser i baentio gan ei fod yn ffordd wych o ymlacio,” meddai.

“Roedd gwyliau’r haf yn fuddiol iawn i mi gan fy mod wedi llwyddo i ailgydio yn y paentio o ddifri’.

Mae newydd sefydlu gwefan lle mae modd prynu ei chynnyrch.

Ddechrau mis nesaf, bydd ganddi arddangosfa yng Nghanolfan Riverside ym Mhontardawe, o 8 Hydref tan ddechrau Tachwedd.

“Bydd modd i’r cyhoedd weld y canfasau mwyaf diweddar, sy’n ymwneud â dŵr – afonydd a’r arfordir,” meddai.

Dyma fydd ei harddangosfa gyntaf, a’r gobaith yn y dyfodol ydy parhau i baentio a chodi proffil fel arlunydd.

Llinos Dafydd